Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Ymunwch â ni ar gyfer Cynnau Goleuadau Nadolig Caerffili yng nghanol tref Caerffili ddydd Gwener 20 Tachwedd!
Mae’r digwyddiad hudolus hwn yn cynnal Gorymdaith Llusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 5:30pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Dân Gwyllt am 6pm! Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn mynychu un o Weithdai Gwneud Llusernau Caerffili a gwneud eich llusern eich hun i oleuo’r dref! (Noder: NID yw mynychu’r gweithdai yn ofyniad i gymryd rhan yn yr orymdaith.)
Rhaglen Adloniant
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Map Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni / Gwybodaeth Parcio a Theithio

Bydd Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn cychwyn yn Eglwys Sant Martin, cyn teithio i lawr Heol Caerdydd a Stryd y Castell, gan droi wrth y senotaff i Stryd y Farchnad ac yn ôl i faes parcio’r Twyn.
Parcio
Mae parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes Parcio Station Terrace, CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili, CF83 1JU (am ddim)
- Maes Parcio Crescent Road, CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
Mae pob un o’r meysydd parcio uchod yn cynnwys mannau parcio i’r anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli Beiciau
Gellir dod o hyd i rheseli beiciau yng ngorsaf drenau Caerffili, ledled Heol Caerdydd, o amgylch y Twyn a thu allan i Morrisons.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili wedi’i lleoli gerllaw safle’r digwyddiad, gyda threnau i ac o Fargoed a Chaerdydd bob 15 munud a threnau i ac o Rhymni bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cysylltiadau uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y fwrdeistref. Ewch i https://tfw.wales a https://www.traveline.cymru/ am ragor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
Rhestr Stondinau

Dros 20 o stondinau masnach yn gwerthu bwyd blasus a chrefftau unigryw, yn ogystal ag ychydig o stondinau gwybodaeth. Mwynhewch gacennau blasus a blaswch ddiod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd, cwrw a seidr! Codwch anrhegion crefft unigryw i deulu a ffrindiau neu beth am drin eich hun!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau lawn!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Gaeaf 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili



