Dewch i ddathlu bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i ardal Gwent yn 2027!
Mae’r Ŵyl Groeso ar Fedi 26 yng Nghasnewydd! Mae’r ŵyl yn ddathliad bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Gasnewydd yn Mai 2027.
Fe fydd na bared yn dechrau o Sgwar John Frost am 11yb ac yn gorffen ger Theatr Glan yr Afon, lle fydd na Jambori ac amryw o berfformiadau wrth y Don Ddur. Mae holl ysgolion Gwent wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r pared.
- Parêd i ddechrau am 11yb yn Sgwâr John Frost (ymgynnull am 10:30am).
- Parêd i orffen wrth y Don Ddur lle fydd perfformiadau gan Mei Gwynedd a Jambori Martyn Geraint.
Diwrnod yn rhad ac am ddim i’r teulu cyfan!