

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Fwyd Rhisga erioed ddydd Sadwrn 20 Medi 2025 ym Mharc Tredegar, canol tref Rhisga NP11 6BW!
Ac yntau’n cynnwys llwyth o ddanteithion blasus, arddangosiadau coginio, reidiau ffair a digon o weithgareddau eraill i’w mwynhau, mae’n bendant yn un na ddylech chi ei golli!
Felly, dewch draw am ddiwrnod allan llawn hwyl a bwyd i’r teulu!
Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.
Parcio a Thrafnidiaeth
Parcio Ceir
Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:
- Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
- Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP
Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaethau Trên
Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.
- Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau’n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.
Gwasanaethau Bws
Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.
- X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
- 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
- 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
- R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
- R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Rheseli Beiciau
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.
Francesco Mattana
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd y cogydd Francesco Mattana yn ymuno â ni yng Ngŵyl Fwyd Rhisga ddydd Sadwrn 20 Medi i ddarparu arddangosiadau coginio cyfareddol!
Cafodd Francesco ei eni a’i fagu ar ynys Sardinia, ac fe yw sylfaenydd Our Cooking Journey, platfform ar-lein ar gyfer rhannu ryseitiau Eidalaidd ac addysgu pobl am goginio tymhorol.
Trwy rannu ei wybodaeth helaeth ac ysbrydoli ei ddilynwyr i goginio, boed yn ddechreuwyr neu’n gogyddion profiadol, mae gan Francesco belllach dros 1.5m o ddilynwyr ar TikTok, Facebook ac Instagram.
Bydd Francesco yn tynnu dŵr o’ch dannedd yng Ngŵyl Fwyd Rhisga eleni gyda thri arddangosiad coginio 45 munud o hyd. Bydd sesiwn byr i gwrdd â chyfarch ar ôl pob un.
Ynglŷn ag ymuno â Gŵyl Fwyd Rhisga, dywedodd Francesco, “Rydw i’n llawn cyffro i fod yn arddangos yn nigwyddiad anhygoel Gŵyl Fwyd Rhisga eleni! Bydda i’n gwneud tri rysáit Eidalaidd a Sardinaidd blasus gan ddefnyddio cynhwysion lleol bendigedig. Alla i ddim aros i’ch gweld chi i gyd yno.”
Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Francesco i Risga! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod draw am ddiwrnod gwych o fwyd a hwyl!
Dilynwch Francesco Mattana ar y cyfryngau cymdeithasol:
Rhaglen Adloniant
Dyma rai o’r gweithgareddau ac adloniant y gallwch chi ddisgwyl eu gweld yng Ngŵyl Fwyd Rhisga!
- Stondinau bwyd, diod, crefft a wybodaeth
- Arddangosiadau coginio gyda Francesco Mattana, Paul da Costa Greaves a Clover Hutson
- Adar ysglyfaethus
- Fferm anwesu
- Reidiau ffair hwyl
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Rhestr Stondinau
Dros 40 o fasnachwyr gyda chacennau, bara, losin, sawsiau, byrgyrs, pitsa a llawer mwy o gynnyrch blasus.
Bydd digon o fwyd stryd i demtio’r blasbwyntiau … Gwyntwch yr arogl a gwylio’r bwyd poeth yn cael ei goginio o’ch blaen chi.
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau yn lawn!
Y Noddfa Synhwyraidd
Rydyn ni’n gwybod y gall torfeydd a llawer o sŵn fod yn llethol i rai pobl, felly, bydd ein Noddfa Synhwyraidd ar gael yn ein digwyddiadau yng nghanol trefi. Bydd hi ar gyfer y rhai sydd ag awtistiaeth ac anghenion niwroamrywiaeth eraill, neu unrhyw un sydd angen cael seibiant.
Yng Ngŵyl Fwyd Rhisga, bydd y lle tawel ar gael yn Llyfrgell Rhisga rhwng 9:30am a 4pm.
Cliciwch yma i weld y Rhestr Wirio Amgylcheddol!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf Cyngor Caerffili 2025
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.