
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866500.
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Dewch draw i Ffair y Gaeaf, Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 22 Tachwedd i brofi hwyl a chyffro’r Nadolig!
P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.
Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.
Gwybodaeth Parcio a Theithio
Parcio
Mae mannau parcio cyhoeddus talu ac arddangos, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes Parcio’r Stryd Fawr, NP12 1AH
- Thorncombe Road 2, NP12 1AW
- Thorncome Road 3, NP12 1AL
- Canolfan Siopa Coed Duon, NP12 1DG
- Woodbine Road, NP12 1AE
- Wesley Road, NP12 1PP
❗️ Mae parcio am ddim ar gael ym Mharc Manwerthu Coed Duon; fodd bynnag, mae’r maes parcio hwn wedi’i ddynodi ar gyfer cwsmeriaid y parc manwerthu a gallwch chi ond yn aros am uchafswm o 2 awr.
❗️ Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli beiciau
Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- 3 gyferbyn â Maxime Cinema ar y Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 3 yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon (NP12 1DG)
- 1 ym Maes Parcio’r Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 5 ar Hall Street (NP12 1AD)
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Rhaglen Adloniant
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Rhestr Stondinau
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.