Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AB, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.
Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!
Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu.
Parcio a Thrafnidiaeth
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhaglen Adloniant
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhestr Stondinau
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.