The Big CWHeese

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, 20 Castle Street, Caerffili CF83 1NY

Ar gyfer Gŵyl Caws Caerffili eleni, beth am fynd draw i Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, am ddiwrnod llawn o adloniant byw, cwmni bendigedig ac awyrgylch gwych. Ac, os bydd hi’n bwrw glaw, bydd to solet, ganrif oed yn eich cadw chi’n sych (fwy neu lai)!

Bydd y Neuadd ar agor o 4pm ymlaen, gyda cherddoriaeth fyw tan berfeddion y nos. P’un a ydych chi’n chwilio am rywle i ymlacio gyda diod, mwynhau perfformiadau byw gwych neu fynd i ysbryd yr ŵyl, mae’r Neuadd yn lle perffaith i dreulio rhan o’ch penwythnos Gŵyl Caws Caerffili.

Eleni, bydd cyfle i ddathlu tan hwyr ar nos Sadwrn – felly, pan fydd yr ŵyl yn dechrau dirwyn i ben, gall y gerddoriaeth barhau. Ewch draw i Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, wrth i’r parti barhau gyda rhagor o adloniant byw yn lleoliad eiconig Caerffili.

Rhestr Berfformwyr

16:00 – 16:45 Nebula
17:00 – 17:45 Rachel Tomsk
18:00 – 18:45 Calling All Cars
19:00 – 19:45 Percival
20:00 – 20:45 The Lost and Found
21:00 – 22:00 Zed Motel

Mynediad am ddim drwy gydol y dydd (ond mae croeso mawr i roddion ariannol).

Ar ôl 6pm, plant dros 14 oed yn unig, a rhaid iddyn nhw fod yng nghwmni oedolyn.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Dolenni eraill

Lleoliad