Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Dathlu popeth yn ymwneud â Chymru wrth i’r Ŵyl Fawr Gymreig ddod i ganol tref Coed Duon ddydd Sadwrn 28 Chwefror!
Mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnwys amrywiaeth o stondinau bwyd, diod a chrefftau gwych, ffair hwyl a digon o adloniant ar thema Cymru.
Felly, cydiwch yn eich cennin a’ch cennin Pedr a pharatoi am lawer o hwyl!
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.
Parcio a Thrafnidiaeth
Parcio
Mae mannau parcio cyhoeddus talu ac arddangos, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes Parcio’r Stryd Fawr, NP12 1AH
- Thorncombe Road 2, NP12 1AW
- Thorncome Road 3, NP12 1AL
- Canolfan Siopa Coed Duon, NP12 1DG
- Woodbine Road, NP12 1AE
- Wesley Road, NP12 1PP
❗️ Mae parcio am ddim ar gael ym Mharc Manwerthu Coed Duon; fodd bynnag, mae’r maes parcio hwn wedi’i ddynodi ar gyfer cwsmeriaid y parc manwerthu a gallwch chi ond yn aros am uchafswm o 2 awr.
❗️ Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli beiciau
Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- 3 gyferbyn â Maxime Cinema ar y Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 3 yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon (NP12 1DG)
- 1 ym Maes Parcio’r Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 5 ar Hall Street (NP12 1AD)
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Rhaglen Adloniant

Dyma rai o’r gweithgareddau ac adloniant yn Yr Ŵyl Fawr Gymreig:
- Rhaglen gerddoriaeth
- Canu anthem genedlaethol
- Stondinau bwyd, diod a chrefft
- Gweithdai crefft i blant
- Gweithgareddau i blant gyda Menter Caerffili
- Clwb Rygbi Dragons
- Reidiau ffair bleser
- Perfformwyr theatr stryd, yn cynnwys chwaraewr rygbi, cenhinen Bedr & merch Gymreig ar goesau bachau, Draig Goch, tylwyth teg Celtaidd a rhagor
- Dafad Rodeo
- Golff Gwallgof
- Paentio wynebau
- Gweithgareddau yn Llyfrgell Coed Duon
- Ffair Grefftau a Marchnad Fisol gan Crafty Legs
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Rhestr Stondinau

Dros 40 o fasnachwyr Cymreig yn gwerthu bwyd blasus a chrefftau unigryw yn ogystal ag ychydig o stondinau gwybodaeth. Mwynhewch gacennau Cymreig blasus a blaswch ddiod neu ddau gan y gwerthwyr diodydd gwirodydd a seidr! Casglwch rai anrhegion crefft unigryw i deulu a ffrindiau neu beth am roi pleser i chi’ch hun!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau lawn!
The Sensory Sanctuary

Rydyn ni’n gwybod y gall torfeydd a llawer o sŵn fod yn llethol i rai pobl, felly, bydd ein Noddfa Synhwyraidd ar gael yn ein digwyddiadau yng nghanol trefi. Bydd hi ar gyfer y rhai sydd ag awtistiaeth ac anghenion niwroamrywiaeth eraill, neu unrhyw un sydd angen cael seibiant.
Yn yr Ŵyl Fawr Gymreig, bydd y lle tawel ar gael yn swyddfeydd Cyngor Tref Coed Duon, yn Lôn Grafel, rhwng 9am a 5pm.
Gweler rhestr wirio amgylcheddol ar gyfer digwyddiadau yma.
Amser Cystadleuaeth
Ennill pryd o fwyd bendigedig i 4 person yn McKenzie’s Café Bar i ddathlu’r Ŵyl Fawr Gymreig!
I gymryd rhan:
• Hoffi a rhannu’r postiad cystadleuaeth ar Facebook
• Ymuno â digwyddiad Facebook yr Ŵyl Fawr Gymreig
• Gwneud sylw, gan roi gwybod i ni beth ydych chi’n ei garu am Gymru
Pryd o fwyd i 4 person yn seiliedig ar ddau oedolyn a dau blentyn.
Telerau ac Amodau
- Mae’r gystadleuaeth yn cau am hanner nos ddydd Gwener 27 Chwefror 2026. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap, bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi, a byddan nhw’n cael gwybod yr un diwrnod.
- Mae mynediad yn gymwys drwy bostiadau Facebook ac Instagram.
- Ni fydd arian parod neu wobrau amgen ar gael.
- Mae ymgeisiadau am ddim ac yn gyfyngedig i 1 y person.
- Dim ond sylwadau ar y post gwreiddiol fydd yn cael eu cyfrif.
- Byddwch yn ymwybodol o sgamwyr. Fyddwn ni byth yn gofyn i chi ddarparu manylion banc neu wybodaeth ariannol arall.
- Efallai y bydd gofyn i’r enillydd gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth, gan gynnwys ffotograffau a/neu gyhoeddi enwau enillwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Am ragor o fanylion am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cystadlaethau/Rafflau Mawr ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Gall yr holl wybodaeth newid.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gwanwyn 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili




Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
