Ffiliffest 2024 – Gŵyl Gymraeg – Mynediad AM DDIM
Mae diwrnod llawn hwyl gyda mynediad am ddim wedi’i drefnu ar Gaeau Owain Glyndwr, Heol y Cilgant, Caerffili ar ddydd Sadwrn Mehefin 8fed. Gŵyl flynyddol Menter Caerffili yw Ffiliffest i ddathlu iaith a diwylliant Cymru ac fe fydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau, adloniant, gweithgareddau, gweithdai, stondinau bwyd a diod a chyfle i brynu gan fusnesau lleol. Mae’r ŵyl yn nol unwaith eto ac fe fydd hi’n ddiwrnod llawn hwyl ac adloniant i’r gymuned gyfan!
Mae Menter Caerffili wedi gweithio yn agos gyda Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Tref Caerffili, grwpiau cymunedol a pherfformwyr i drefnu’r digwyddiad mewn lleoliad hollol unigryw. Mae cannoedd o blant o ysgolion lleol yn paratoi ac yn ymarfer i ddawnsio gwerin ar y brif lwyfan sef arddangosfa dawnsio gwerin fwyaf y Sir. Mae’r ŵyl eleni yn parhau tan 19:00, gyda pherfformiadau gan fandiau a pherfformwyr Cymreig fel Martyn Geraint, Allan yn y Fan, Côr Meibion Caerffili, Wonderbrass, Mr Phormula, The Gentle Good, Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas, Iest, Paid Gofyn a nifer o fandiau ifanc lleol. Rydym hefyd yn ffodus iawn eleni i gael Ellis Lloyd Jones yn cyflwyno o’r llwyfan!
Fe fydd stondinau nwyddau, amrywiaeth o fwyd a diod yn cynnwys bwyd llysieuol, cwrw a seidr, hefyd gweithgareddau a gweithdai addysgol amrywiol megis pabell celf a chrefft, sgiliau syrcas, ardal gemau fideo a chwaraeon – i gyd am ddim!
Dywedodd Kira Bissex o Menter Caerffili ynglŷn â’r resymau dros gynnal yr ŵyl: “Yn Ffiliffest rydym ni’n croesawu bobl o bob oedran i ddod i fwynhau iaith a diwylliant Cymru mewn lleoliad ffantastig. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i bobl i gysylltu â’r Gymraeg beth bynnag eu gallu. Fe fydd rhaglen anhygoel o berfformiadau, gweithgareddau amrywiol iawn i blant, ardal fwyd a gwybodaeth gan fudiadau lleol. Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld Ffiliffest yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.”
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n prif noddwyr sef, Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Caerffili, Cyngor B.S.Caerffili a Cyngor Celfyddydau Cymru.
Fe fydd Ffiliffest ar Fehefin 8fed rhwng 11:00-19:00 ar Gaeau Chwarae Owain Glyndwr, Heol y Cilgant, Caerffili.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentercaerffili.cymru neu cysylltwch â Kira Bissex ar 01443 820913 / kirabissex@mentercaerffili.cymru.