Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili 2025

April 12, 9:00am - April 12, 5:00pm

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 12 Ebrill!

Gall ymwelwyr grwydro drwy’r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi’i leoli wrth galon y digwyddiad!

Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy’n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi’i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae’r digwyddiad yn ymuno â’r marchnadoedd misol sefydledig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, a ffair grefftau ger y Senotaff gan Crafty Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth!

Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach!

Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 28 Ebrill a 9pm nos Sadwrn 29 Ebrill.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a’r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i wefan Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili.


Parcio a Thrafnidiaeth

 

Cliciwch ar y map i weld fersiwn PDF llawn.

Parcio

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
  • Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni – Y Gwyndy, Heol Pontygwindy, CF83 3HG
  • Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW

Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.

❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli Beiciau

Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr.

Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.

❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.

*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.


Rhaglen Adloniant

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF

 

 

 


 

Essential information

Address
Address
Canol Tref Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866390
Website
Social Media
Facebook
Instagram

You may also be interested in: