Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â ni yn Pride Caerffili a fydd yn digwydd rhwng 12pm-7pm ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2025.
Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.
Bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Maes Parcio’r Twyn, Canol Tref Caerffili, CF83 1JL, lle bydd y ffordd ar gau ar hyd Twyn Road.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i cydraddoldeb@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404 / 864353.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen.
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.
Lleoliadau rheseli beiciau yng nghanol tref Caerffili:
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.
❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei noddi gan Robert Price Builders’ Merchants. Y cyflenwyr adeiladwyr annibynnol mwyaf yn Ne Cymru a Swydd Henffordd; mae rhagor o wybodaeth yn www.robert-price.co.uk!
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.