Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach yn denu bron i 6,000 o ymwelwyr ar ddiwrnod prysuraf y flwyddyn yn y dref hyd yn hyn
23 Ebrill, 2026
Amser darllen: 3m
Croesawodd canol tref Caerffili dros 7,000 o ymwelwyr ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili ddydd Sadwrn 18 Ebrill. Dyma’r nifer uchaf o ymwelwyr i’r dref eleni, gan nodi digwyddiad llwyddiannus arall yng nghalendr 2026.
Dyma oedd pedwerydd digwyddiad y flwyddyn i gael ei gyflwyno gan Dîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a ddenodd deuluoedd, cyplau a grwpiau gan greu awyrgylch bywiog ledled y dref gyfan.
Mwynhaodd ymwelwyr amrywiaeth fawr o stondinau yn cynnig cynhyrchion bwyd a diod o ansawdd uchel, ochr yn ochr â rhaglen o arddangosiadau coginio diddorol. Roedd y digwyddiad hefyd yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim ac addas i deuluoedd, gan gynnwys gweithdai coginio, sesiynau crefft a reidiau ffair, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant bawb.
Gan ychwanegu at y profiad bywiog, roedd theatr stryd ar thema yn diddanu’r dorf gyda frankfurter enfawr yn crwydro o gwmpas, gwerthwyr teclynnau cegin rhyfedd a gweinyddesau troli doniol, gan ddod â chymeriad unigryw i’r diwrnod.
Mae ysgogi ymwelwyr i ymweld â chanol trefi yn parhau i fod yn un o brif amcanion y digwyddiadau hyn, ac mae’r ŵyl eleni yn amlwg wedi cyflawni hynny. Gan ddenu torfeydd mawr, mae’r digwyddiadau hyn yn parhau i gefnogi busnesau lleol, codi proffil yr ardal ac annog ymweliadau tro ar ôl tro.
Hyd yn hyn yn 2026, mae’r pedwar digwyddiad sydd wedi’u cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol – sef Yr Ŵyl Fawr Gymreig; Ffair y Gwanwyn, Bargod; Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach; a Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili – gyda’i gilydd wedi denu mwy na 18,500 o ymwelwyr i ganol trefi lleol.
Wrth edrych ymlaen, bydd Caerffili yn cynnal ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ddydd Sul 10 Mai, digwyddiad allweddol arall i’r ardal. Yn y cyfamser, bydd Bargod yn cynnal Ffair Fai Bargod ddydd Sadwrn 9 Mai. Gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd i ddod drwy wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Croeso Caerffili.
Diolch i Gyngor Tref Caerffili am roi cymorth ariannol i’r digwyddiad hwn.
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am yr wŷl:
Eleri’s Welsh Cakes – “LLWYDDIANT… GWERTHON NI’R NIFER MWYAF ERIOED O BICE AR Y MAEN! Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili, roeddech chi’n anhygoel! Diflannodd ein nerfau ynglŷn â gorstocio pan welon ni faint ohonoch chi a ddaeth i’n cefnogi ni. Diolch yn fawr iawn i’n holl gwsmeriaid ni ac i Gyngor Caerffili am ddigwyddiad bythgofiadwy.”
Sarah Harris-Clint, Gweithredwr Ffos Caerffili – “Dyma oedd ein diwrnod prysuraf o’r flwyddyn hyd yma yn Ffos Caerffili. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl leol ac ymwelwyr yn y dref yn mwynhau ac yn cefnogi busnesau bach. Roedd yr awyrgylch yn wych, gwelon ni lawer o wenu, canu, cymeradwyo ac, wrth gwrs. bwyta ac yfed! Cafodd rhai o’r masnachwyr yn Ffos Caerffili eu diwrnod masnachu gorau ers iddyn nhw ddechrau eu busnes. Diwrnod anhygoel i arddangos Caerffili a diwrnod i deimlo’n falch o fod yn rhan ohono.”
Angharad Underwood, The Cookalong Clwb a The Preservation Society – “Diolch yn fawr am eich holl gymorth ac am lain anhygoel a chyfleusterau gwych; roedd yr ŵyl yn fendigedig! Rhoddodd y plant dros 300 o samplau a siarad â channoedd o bobl, ac roedd pawb wrth eu boddau. Mae newid yn mynd i ddigwydd, gyda diolch enfawr i’ch cefnogaeth chi!”