Mae pabell fawr Dan y Dderwen, sy’n newydd yn 2018, yn cynnwys twba twym o bren naturiol, pant tân i goginio yn yr awyr agored, llosgydd pren, cegin â’r holl gyfarpar angenrheidiol, ac ystafell ymolchi â chawod boeth.
Mae’r gwelyau cyfforddus a chlyd wedi’u paratoi cyn ichi gyrraedd, felly y gallwch ddadbacio ac ymlacio.
Mae Richard a Lydia yn edrych ymlaen at eich croesawu i’w fferm, ac yn barod i’ch rhoi ar ben ffordd pa un a ydych eisiau cerdded, beicio neu deithio ymhellach.