Upper Grippath Farm Holiday Cottages

Mwynhewch dawelwch a llonyddwch ar y fferm ddefaid hon.

Mae Upper Grippath Farm Holiday Cottages wedi’u lleoli ger Fforest Cwmcarn, ac maent yn cynnig golygfeydd trawiadol dros ffin Cymru tuag at Bontydd Hafren a thu hwnt.

Bydd croeso cynnes i chi yn y tri bwthyn hunanarlwyo 4*. Mae gan bob bwthyn ddwy brif ystafell wely, ynghyd ag ystafell fyw, man bwyta a chegin gyflawn. Darperir dillad gwely a thywelion. Mae gan bob bwthyn doiled, bath â chawod a system gwres canolog sy’n defnyddio olew. Yn y bythynnod mae band eang, teledu Freeview a chwaraeydd DVD, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad, a chewch ddefnyddio’r sawna hefyd.

Mae’r bythynnod wedi’u lleoli o amgylch iard ganolog lle mae digon o le i barcio. Mae mannau i eistedd a chael barbeciw y tu allan yn cynnig lle preifat neu le i gymdeithasu os bydd angen.

Cafodd dau o’r bythynnod (Talfryn a Barrwg) eu haddasu o ysgubor garreg 400 oed, ac er eu bod yn cynnig pob cysur modern y byddech yn ei ddisgwyl, mae rhywfaint o’r ysgubor wreiddiol i’w gweld o hyd! Mae’r trydydd bwthyn (Hafren) yn fwthyn a adeiladwyd yn bwrpasol, ac mae iddo ei gymeriad ei hun. Mae un o’r bythynnod carreg (Barrwg) wedi’i addasu er mwyn bod yn hygyrch, a gall ddiwallu anghenion defnyddiwr cadair olwyn neu rywun nad yw’n hoffi dringo’r grisiau. Lawr y grisiau mae ystafell â dau wely sengl ac ystafell ymolchi, ac i fyny’r grisiau mae ystafell arall â dau wely sengl ac ystafell gawod.

Essential information

Address
Address
Upper Grippath Farm, Risca
NP11 6JB
Phone
Phone
01633 615000 / 07787541000
Website
Website
Website
CTA Member

You may also be interested in: