Operation Save Christmas

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  The Meadows Wildlife Park, Gypsy Lane, Caerffili CF15 7UN
  07727 304695   info@escaperecords.co.uk   Ewch i'r wefan

Manylion am y digwyddiad


Llinell stori

Tua 22:47 GMT ar 26 Rhagfyr 2024, cafodd sled Siôn Corn ei holrhain ddiwethaf ger Caerffili. Ni lwyddodd i deithio’n ôl i Begwn y Gogledd.

Mae adroddiadau cychwynnol yn awgrymu’r posibilrwydd y bu’r sled yn ddiffygiol yn yr awyr. Yn ôl llygad-dystion yn yr ardal, roedd fflach goch yn yr awyr a sŵn clychau sled yn malu. Nid oes cofnod o weld y sled ers hynny. Na chysylltiad â’r sled, chwaith. Mae Siôn Corn a’i geirw ar goll yn swyddogol.

Mae gwraig Siôn Corn bellach wedi lansio ymgyrch chwilio brys.
Rydyn ni’n galw ar deuluoedd dewr i wirfoddoli ac ymuno â ni ar lawr gwlad.

Bydd y Pencadlys Chwilio yn weithredol rhwng 4 Rhagfyr a 24 Rhagfyr.

Lleoliad: The Meadows Wildlife Park

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ffeil achos ddigidol a Phecyn Chwilio wrth gyrraedd.

Tasg eich teulu: Dilyn y cliwiau, chwilio’r llwybr, a helpu’r coblynnod i achub y Nadolig.

Beth i’w ddisgwyl

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael y canlynol:

  • Ffeil achos ddigidol gyda’r hyn rydyn ni’n ei wybod hyd yma
  • Pecyn Chwilio swyddogol wrth gyrraedd (map, cliwiau a rhagor)
  • Arweiniad gan goblynnod, cymeriadau Nadoligaidd, goleuadau a synau i allu dilyn y llwybr chwilio
  • Mynediad i bencadlys Ffatri Deganau argyfwng dros dro y coblynnod – lle gall plant helpu achub y Nadolig

Gwobrau ar ôl chwilio

TASG WEDI’I CHWBLHAU? Gobeithio… Ar ôl eich sesiwn chwilio, gall gwirfoddolwyr fwynhau gwobrau haeddiannol yn y Pencadlys Chwilio:

Gallwch chi ddisgwyl y canlynol:

  • Diodydd poeth a lluniaeth Nadoligaidd i’ch cynhesu
  • Gemau a gweithgareddau Nadoligaidd i godi’ch calon
  • Ffatri Deganau dros dro sy’n cael ei rhedeg gan y coblynnod
  • Ffilm Nadoligaidd i helpu pawb i gamu i hwyl yr ŵyl
  • A llawer rhagor o brofiadau Nadoligaidd i helpu cadw’r ysbryd yn gryf a dangos y ffordd adref i Siôn Corn

Gwybodaeth am docynnau

Ar werth nawr!

Prisiau

  • Oedolion (12 oed neu’n hŷn): £25
  • Plant (3–11 oed): £25 – yn cynnwys anrheg gan Siôn Corn.
  • Tocyn Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn): £75
  • Plant 0–2 oed: Am ddim

Slotiau cyrraedd

Dyddiau’r wythnos (4/5/11/12/17/18/19/22/23 Rhagfyr)

  • Oriau agor: 12pm–7pm
  • Egwyl: 3.15pm–4pm

Penwythnos (6/7/13/14/20/21 Rhagfyr)

  • Oriau agor: 11am–7pm
  • Dwy egwyl 30 munud o hyd:
    • 1.30pm–2pm
    • 4.30pm–5pm

Noswyl Nadolig (24 Rhagfyr)

  • Oriau agor: 11am–3pm

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Dolenni eraill

Lleoliad