Oeddech chi’n gwybod bod capybaraod yng Nghaerffili?!
Wedi’i leoli mewn 21 erw o gefn gwlad hardd ar gyrion Caerffili (Gypsy Lane, Groes-wen CF15 7UN), mae The Meadows Wildlife Park yn atyniad nid-er-elw, teuluol sy’n cynnig profiadau rhyngweithiol, addysgiadol a bythgofiadwy gydag anifeiliaid ar gyfer pawb o bob oed.
Dewch i gwrdd â dros 300 o anifeiliaid anhygoel – o fywyd gwyllt egsotig i ffefrynnau’r fferm:
Sêr egsotig – capybaraod, lemyriaid cynffon-fodrwyog, tamariniaid pen cotwm, swricatiaid, walabïod, armadilos, cŵn paith, loricitiaid, ceirw Llychlyn, drewgwn, ballasgod ac emiwiaid
Ffefrynnau’r fferm – geifr, moch, defaid, alpacaod, lamaod, asynnod, hwyaid, ieir, merlod a rhagor
Ymlusgiaid a mwy – nadroedd, igwanaod, dreigiau barfog, madfallod eraill, crwbanod ac infertebratau diddorol
Mae The Meadows yn llawer mwy na rhywle i edrych ar anifeiliaid yn unig. Mwynhewch brofiadau ymarferol gydag anifeiliaid bach, a all gynnwys anwesu cwningod a moch cwta, bwydo loricitiaid a brwsio geifr. Mae gweithgareddau yn amrywio yn ôl y tymor ac anghenion yr anifeiliaid, gan fod lles anifeiliaid bob amser yn flaenoriaeth.
Hefyd, ar gyfer ymweliad arbennig iawn, mae The Meadows yn cynnig profiadau wyneb yn wyneb anhygoel gyda’r ffefrynnau, gan gynnwys capybaraod a swricatiaid. Mae’r profiadau hyn ar gael i’w trefnu ymlaen llaw ar-lein, yn amodol ar argaeledd. Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym, felly, ewch i wefan The Meadows a bwrw golwg ar y dyddiadau nesaf sydd ar gael – mae’n werth aros amdanyn nhw!
Drwy gydol y flwyddyn, gall teuluoedd fwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau tymhorol ac adloniant yn ystod gwyliau ysgol – gan gynnwys hwyl ewynnog yr haf, gweithgareddau’r Pasg, llwybrau arswydus Calan Gaeaf a dathliadau Nadolig hudolus. Mae gwahanol weithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod y tymhorau, felly, mae bob amser rheswm arall i ddychwelyd.
Ar ôl archwilio’r parc, galwch heibio i Willows Coffee Shop am fwyd wedi’i baratoi’n ffres, diodydd a danteithion mewn lleoliad hamddenol yng nghefn gwlad. Hefyd, mae mannau digwyddiadau amlbwrpas The Meadows ar gael ar gyfer partïon pen-blwydd, ymweliadau gan ysgolion, gweithdai, dathliadau a digwyddiadau preifat.
Mae ymweliadau addysgol yn rhan bwysig o waith The Meadows, gyda rhaglenni wedi’u cynllunio i ategu dysgu trwy natur, bywyd gwyllt a rhyngweithio uniongyrchol ag anifeiliaid. Fel parc bywyd gwyllt nid-er-elw, mae pob ymweliad yn helpu The Meadows i barhau i ofalu am yr anifeiliaid a chynorthwyo ysgolion, gwirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau cymunedol.
Dilynwch The Meadows Wildlife Park ar Facebook i gael gwybod am y newyddion diweddaraf, digwyddiadau a gwybodaeth i ymwelwyr, neu ddod o hyd i The Meadows ar Instagram a TikTok i gael rhagor o gynnwys o’r tu ôl i’r llenni.