Nadolig yn The Meadows Wildlife Park

28 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2026 (Gweld amseroedd dyddiol)
  The Meadows Wildlife Park, Gypsy Lane, Caerffili CF15 7UN

Mae hud y Nadolig yn dod i The Meadows Wildlife Park, gan gynnig antur Nadoligaidd i’r teulu a diwrnod llawn o ddarganfod bywyd gwyllt.

Gall teuluoedd grwydro trwy’r parc wedi’i addurno’n hyfryd, cwrdd â dros 300 o anifeiliaid a mwynhau syrpreisys Nadoligaidd ar hyd y ffordd.

Mae’r profiad Nadolig llawn yn cynnwys:

  • Mynediad llawn i The Meadows Wildlife Park
  • Ymweliad teuluol unigol â Siôn Corn
  • Anrheg ar ffurf tegan meddal o ansawdd uchel
  • Pasbort Nadolig a llwybr stampiau Nadoligaidd
  • Gweithgareddau rhyngweithiol gyda chymeriadau Nadoligaidd
  • Mynediad i stondinau’r Farchnad Nadolig
  • Bwyd, diodydd a danteithion Nadoligaidd ar gael i’w prynu

Gall pob teulu fwynhau ymweliad unigol â Siôn Corn yn ystod y diwrnod, gyda digon o amser yn weddill i archwilio’r parc a chymryd rhan yn y gweithgareddau Nadoligaidd.

Wrth y fynedfa, bydd y Farchnad Nadolig yn cynnwys anrhegion tymhorol, masnachwyr lleol a digon o siopa Nadolig. Hefyd, gall ymwelwyr gynhesu gyda malws melys wedi’u tostio, siocled poeth a choffi arbenigol, bwyd poeth tymhorol, danteithion melys a ffefrynnau tymor y gaeaf.

Cwrdd ag anifeiliaid anhygoel, ymweld â Siôn Corn, cymeriadau Nadoligaidd, gweithgareddau Nadoligaidd a mwynhau danteithion tymhorol – mae digwyddiad y Nadolig yn The Meadows Wildlife Park yn addo diwrnod allan hudolus i’r teulu, yn llawn atgofion i’w trysori.

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly, byddai’n syniad da trefnu lle yn gynnar.

Dyddiadau: Dydd Sadwrn 28 Tachwedd a dydd Sul 29 Tachwedd; o ddydd Gwener 4 Rhagfyr i ddydd Sul 6 Rhagfyr; o ddydd Gwener 11 Rhagfyr i ddydd Sul 13 Rhagfyr; ac o ddydd Gwener 18 Rhagfyr i ddydd Iau 24 Rhagfyr 2026

Am ragor o wybodaeth a thocynnau, ewch i wefan The Meadows Wildlife Park.

Digwyddiadau yn The Meadows Wildlife Park