Blwyddyn i fynd nes i Gaerffili groesawu’r Tour de France

  Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf, 2026
  Amser darllen: 2m

Bydd llygaid byd beicio yn troi at Fwrdeistref Sirol Caerffili ymhen blwyddyn, pan fydd y Tour de France yn dod i Gymru.

Mae’r cyffro yn cynyddu wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad chwaraeon am ddim mwyaf yn hanes Prydain.

Bydd Cymru yn chwarae rhan ganolog yn Tour de France 2027. Bydd trydydd cymal ras y dynion yn dechrau yn y Trallwng, Powys, ac yn gorffen yng Nghaerdydd, ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027, gan wynebu rhai o ddringfeydd mwyaf golygfaol a heriol y rhanbarth – gan gynnwys Côte de Rhigos a Côte de Caerffili yn y cilomedrau olaf.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Rydyn ni’n falch iawn o gael cyfle i groesawu’r digwyddiad chwaraeon byd-eang hwn i’r Fwrdeistref Sirol yr haf nesaf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr elît o bedwar ban byd, a fydd yn rasio trwy ein trefi a’n pentrefi cyn mynd i’r afael â’r ddringfa eiconig i fyny Mynydd Caerffili.

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau y bydd digwyddiad chwaraeon mor fawr yn darparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol i Fwrdeistref Sirol Caerffili. Hefyd, rydyn ni eisiau rhoi digon o rybudd i drigolion a busnesau am yr angen i gau ffyrdd ar y diwrnod, felly, mae angen i bawb gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad mawr.”

Ychwanegodd Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Heledd Fychan, “Rydyn ni’n ysu am gael croesawu’r Tour de France yn 2027 i Gymru. Bydd yn gyfle gwych i arddangos rhai o’r llwybrau beicio gwych sydd gennym ni yma i’r byd i gyd. Bydd o fudd i fyd chwaraeon, byd twristiaeth a’r economi ehangach, ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar hynny i’r eithaf.

“Mae gennym ni dreftadaeth feicio falch a chefnogwyr angerddol, felly, rydyn ni wrth ein bodd i chwarae ein rhan yn nathliadau Grand Départ Grande-Bretagne yr haf hwn. Byddwn i’n annog pawb i gymryd rhan, os oes modd, a gwneud y gorau o’r cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth hwn.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.letourGB.com

Awydd bod yn rhan o’r Grands Départs hanesyddol yn 2027? Cofrestrwch ar gyfer gwirfoddoli i fod yn ‘JOY Maker’ yn www.letourgb.com/volunteer

Postiadau diweddar