Families Magazine Editor Rebecca Lewis reviews a family glamping weekend in Caerphilly

Bwyd gwych, golygfeydd hyfryd a phinsiad o foethusrwydd, dyma’r rysáit perffaith ar gyfer seibiant natur lleol i’r teulu, darganfyddodd Rebecca Williams, Golygydd Rheoli ar gyfer y cylchgrawn ‘Families Cardiff’…

Bwyd gwych, golygfeydd hyfryd a phinsiad o foethusrwydd, dyma’r rysáit perffaith ar gyfer seibiant natur lleol i’r teulu, darganfyddodd Rebecca Williams, Golygydd Rheoli ar gyfer y cylchgrawn ‘Families Cardiff’…

Fel teulu, mae ein rhestr o ddymuniadau ar gyfer gwyliau glampio perffaith yn hir a, gallai rhai ddweud, bron yn afresymol. I’r plant, mae yna ardal ddiddiwedd i redeg yn rhydd, tyllau a chorneli i guddio ynddynt, gyda phwyntiau ychwanegol am anifeiliaid i’w bwydo a’u mwytho. I Dad, mae’r pethau ymarferol yn dod yn gyntaf: gosod barbeciw, cig da i’w daflu ar y tân, seddi awyr agored i fwynhau’r dirwedd hardd, golygfeydd o’r machlud a’r awyr serennog. Ar gyfer Mam (sef fi), y gofynion yw gwely cyfforddus, toiled a chyfleusterau ymolchi er mwyn lleihau’r angen am glytiau gwlyb, ac, mewn byd perffaith, gorcsgriw a thwba twym.

Yn ffodus, mae Under The Oak – triawd o gabanau saffari sydd wedi’u lleoli o amgylch llyn yng nghornel dawel Fferm Pen-y-waun, yn uchel ym mryniau Bedwas – yn cyflawni popeth.

Mae’r wefan yn addo cyfle i ddianc rhag y prysurdeb, ac wrth i ni sefyll ar ein feranda, ymysg y bryniau gwyrdd, mae yna eisoes deimlad bod pryderon bywyd yn llithro i ffwrdd. Y tu mewn, rydym wrth ein bodd i ddarganfod ystafell ymolchi fawr gyda chawod enfawr a (diolch byth!) toiled sy’n tynnu dŵr. Calon ein cartref dros dro yw’r llosgwr pren dan do sy’n sicrhau bod o leiaf un o’n bagiau o ddillad twym yn hollol ddiangen.

Mae cydbwysedd y teulu mewn perygl am eiliad ar ôl dod o hyd i’r cwtsh – gwely dwbl wedi’i guddio mewn cwpwrdd wedi’i oleuo gan oleuadau bach. Pwy fydd yn cysgu yn y trysor bach hwn? Rydym yn treulio ychydig o funudau yn esgus bod hyn yn destun dadl cyn i’n plentyn tair oed ddringo i mewn a’i gipio.

Wrth i amser fynd ymlaen rydym yn gwerthfawrogi’r golygfeydd, darllen llyfrau, toddi malws melys, ac mae dychmygion y plant yn mynd yn wyllt, gan ddod o hyd i ryfeddod diddiwedd yn y gegin fwd, rholio i lawr bryniau a bwydo’r hwyaid. Rydym yn bwyta cinio wrth y pydew tân, gan ddiolch i’r cigydd lleol yn y pentref, a ddarparodd ein gwledd (Buckland’s, 18 Church Street).

Mae ein hadloniant ar ôl cinio yn cyrraedd: buches sydd wedi dianc i fynd i fyw yn y cae drws nesaf. Yna mae’r plant yn tawelu am y nos gyda’u boliau’n llawn cŵn poeth a’u meddyliau wedi troi tuag at frecwast o wyau ffres a diwrnod arall o anturiaethau.

Wrth i’r sêr ymddangos, rydym yn llithro i’r twb poeth ac yn ychwanegu un eitem olaf at ein rhestr o ddymuniadau glampio: rhywle sy’n gwneud i ni deimlo bod gennym rywbeth i rannu ag eraill. Tic yn y bocs.

Gall cabanau saffari roi lle i hyd at 6 oedolyn, gyda chynigion llogi neilltuedig ar gael ar gyfer grwpiau mwy. Trefnwch eich gwyliau drwy wefan Under the Oak

CAERFFILI’N COGINIO: LLENWCH EICH PENWYTHNOS A’CH BOL

Bwyty Casa Mia
Mae’r gegin deuluol hon yng nghanol y dref yn cyfuno prydau Cymreig poblogaidd lleol â chlasuron ardal Môr y Canoldir i greu bryd o fwyd sylweddol. Mae’r olygfa anhygoel o Gastell Caerffili yn ganolbwynt o bob ongl. Mae’r gwasanaeth yn gynnes ac yn gyfeillgar, gyda’r plant yn derbyn triniaeth arbennig. Perffaith ar gyfer cael cinio cyn mynd o amgylch y castell.
Llawr cyntaf, 4–6 Y Twyn, Caerffili CF83 1JL Gwefan Casa Mia

Basil & Rusty’s Ice Cream
Mae’r gwobrau a ddyfarnwyd i’r fferm deuluol hon am ei hufen iâ nodedig yn ormod i’w rhestru. Digon yw dweud nad yw hyn yn rhywle rydych chi’n mynd i gael côn 99. Os ewch â stumog wag efallai gewch chi affogato i gychwyn, waffl a hufen iâ fel prif gwrs a hufen iâ a ffrwythau i orffen. Yn y cyfamser bydd y plant yn brysur yn yr ardal chwarae.
Fferm Gelli Wastad, Machen CF83 8JE . Basil & Rusty’s Facebook Page

Families Magazine website 

Essential information

CTA Member