Miloedd o bobl yn ymweld â chanol tref Caerffili ar gyfer yr Ŵyl Bwyd a Diod hynod boblogaidd
30 Ebrill, 2026
Amser darllen: 3m
Ddydd Sadwrn 9 Mai, fe wnaeth Ffair Fai Bargod ddychwelyd a daeth 3,300 o ymwelwyr i ganol y dref.
Fe wnaeth llawer o deuluoedd a ffrindiau o bob oed fwynhau’r digwyddiad a’r cyfan roedd ganddo i’w gynnig. Roedd amrywiaeth wych o stondinau yn gwerthu bwyd a diod, ceir trawiadol o ffilmiau a llawer o weithgareddau i blant, gan gynnwys reidiau ffair. Roedd y stryd fawr yn llawn dop o weithgareddau am ddim fel teganau gwynt enfawr, gemau traddodiadol, reidiau asynnod, gweithdai crefft a masgotiaid sy’n debyg i gymeriadau teledu a ffilm, i gyd yn diddanu’r cyhoedd.
Fe wnaeth y ffair ddenu nifer o bobl ac ymwelwyr newydd i ganol y dref, sef nod allweddol y digwyddiadau hyn. Dyma’r pumed digwyddiad yn rhaglen digwyddiadau 2026, ac yn ddiwrnod pleserus i bawb dan sylw.
Nesaf, bydd Bargod yn gartref i Ŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2026 – dyddiad allweddol arall i helpu cefnogi busnesau lleol. Mae’r digwyddiadau hyn yn codi proffil ein trefi ac yn cyflwyno ymwelwyr i’r amrywiaeth o fusnesau lleol sydd ar gael, gan obeithio ysgogi ymweliadau dro ar ôl tro.
Digwyddiad nesaf y Fwrdeistref Sirol yn ein dyddiadur ni yw Gŵyl Fwyd Traeth Rhisga ddydd Sadwrn 6 Mehefin a dydd Sul 7 Mehefin 2026. Mae’r manylion llawn ar gael gan Croeso Caerffili ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Hyd yn hyn eleni, mae’r pum digwyddiad wedi’u cynnal (Yr Ŵyl Fawr Gymreig; Ffair y Gwanwyn, Bargod; Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach; Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili; a Ffair Fai Bargod) wedi denu bron i 22,000 o ymwelwyr i ganol ein trefi.
Diolch i Gyngor Cymuned Bargod am ei gymorth ariannol.
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol y dref am y digwyddiad:
Reverie, Creators Market – “Roedd dydd Sadwrn yn anhygoel i ni, ac er bod y tywydd da yn helpu, roedd llif cyson o gwsmeriaid i mewn ac allan o’n siop drwy’r dydd. Ar adegau, roeddech chi’n methu symud yn y siop oherwydd nifer y bobl yno. Roedd yn ddiwrnod anhygoel o ran gwerthu, felly mae digwyddiadau a ffeiriau fel y rhain yn bendant yn helpu denu pobl i’r dref a chwsmeriaid i’r siopau.”
Bowen & La Bamba Barbershop/Awaydayz Clothing – “Dyma’r diwrnod busnes gorau rydyn ni erioed wedi’i gael pan fo digwyddiad wedi’i gynnal yn y dref. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr un nesaf!”
Tafarn y Square Royale – “Roedd yn ddiwrnod prysur iawn, iawn ac roedd bron pob bwrdd yn llawn. Roedd yn braf cael stondinau y tu allan i’r dafarn, ac roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn y dref. Mae digwyddiadau fel hyn wir yn helpu cefnogi busnesau lleol.”
Siop elusen Barnardo’s – “Roedden ni’n brysur iawn yn y siop a’r tu allan gyda’n bargeinion pen bwrdd, ac roedd yn braf gweld cynifer o bobl yn y dref. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu ail-greu ysbryd cymunedol Bargod a ddylai fod yn nod pawb!”
Flair & Foxy – “Dyma’r tro cyntaf i ni fasnachu ym Margod. Roedd yn awyrgylch gwych.”