Mae’r Courtyard wedi’i leoli yng nghanol tref Caerffili yng nghysgod y castell canoloesol mwyaf ym Mhrydain ond un – sy’n ei wneud yn lle delfrydol i dwristiaid, gwesteion priodas yn y Neuadd Fawr, gweithwyr busnes a’r rhai sy’n ymweld â’r teulu.
Mae’r bwthyn fel ystafell gwesty gyda phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer gwyliau cyfforddus.
Mae gan y bwthyn un ystafell wely (ar gyfer un neu ddau westai) â gwely dwbl, teledu lliw, bwrdd gwisgo ac ardal eistedd fach.
Mae’r llety’n cynnwys ystafell gawod a thoiled, ardal fwyta fach a chyfleusterau coginio, ynghyd â phecyn croeso bach sy’n cynnwys coffi, te a siocled poeth am ddim.
Mae maes parcio preifat a diogel ar gael wrth ymyl y bwthyn. Mae’r orsaf fysiau a’r orsaf drenau, yn ogystal ag amwynderau lleol megis archfarchnad, bwytai a thafarndai, a’r castell wrth gwrs, yn daith fer ar droed.
Gellir cyrraedd Caerdydd mewn 15 munud ar y trên, ac mae’n wyth milltir i ffwrdd mewn car neu ar fws.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod â chi eich hun.