Cerfluniau Snoopy enfawr yn barod i ddod â giamocs ciog i Gaerffili a Phorthcawl.

Mae Dogs Trust wedi cyhoeddi y bydd yn dod â rhagor o giamocs ciog i Dde Cymru y flwyddyn nesaf, drwy ymestyn ei llwybr celf A Dog’s Trail with Snoopy i’r trefi cyfagos Caerffili a Phorthcawl.

Yn wreiddiol, digwyddiad yng Nghaerdydd gyda 50 cerflun oedd A Dog’s Trail with Snoopy, ond bydd bellach yn mynd am dro i ddwy dref gerllaw, lle bydd o leiaf chwe cherflun Snoopy enfawr yn cael eu harddangos ymhlith tirnodau allweddol ac mewn lleoedd cyhoeddus, gan annog ymwelwyd i ddilyn y llwybr i ddarganfod rhagor o ranau syfrdanol y rhanbarth.

Mae elusen lles cŵn fwyaf y DU wedi ymuno â Wild in Art mewn cydweithrediad â Peanuts i ddod â’r llwybr celf newydd cyffrous hwn i Dde Cymru yng Ngwanwyn 2022, sy’n cynnwys y beglgi byd-enwog, Snoopy. Nod y llwybr, sy’n gyfeillgar i gŵn, yw codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer Dogs Trust – a fydd yn agor canolfan ail-gartrefi newydd yng Nghaerdydd yn fuan. Mae hefyd yn ddigwyddiad cydweithredol torfol, gan gynhyrchu hwb cymdeithasol, lles ac economaidd i’r trefi, y dinasoedd a’r cymunedau dan sylw.

Bydd A Dog’s Trail with Snoopy yn para 10 wythnos, o’r 25 Mawrth tan 5 Mehefin 2022. Bydd yn cynnwys cerfluniau Snoopy unigryw a lliwgar wedi’u dylunio gan artistiaid o Dde Cymru a chenedlaethol. Mae artistiaid o Gymru sy’n dymuno cael cyfle i arddangos eu gwaith ar gerflun Snoopy enfawr yn cael eu hannog i gyflwyno cais a’u dyluniadau cyn y dyddiad cau, sef 1 Gorffennaf.

Bydd pob cerflun yn cael ei noddi gan fusnes neu unigolyn, a bydd ganddo ei stori ei hun i’w hadrodd, a nifer ohonyn nhw yn arddangos y dalent artistig helaeth sydd gan Gymru. Pan fydd y llwybr yn dod i ben, bydd y cerfluniau Snoopy yn cael eu harwerthu i godi arian ar gyfer Dogs Trust. Gall busnesau, unigolion a sefydliadau rhanbarthol sydd am ddarganfod rhagor am sut y gallan nhw roi eu marc ar un o’r cŵn mwyaf eiconig yn y byd a noddi llwybr celf Snoopy ddod o hyd i wybodaeth yma ut1}www.adogstrail.org.uk.

Bydd y cerfluniau Snoopy yn mynd â chi heibio i dirnodau eiconig a lleoliadau allweddol yng Nghaerffili a Phorthcawl gan gynnwys Castell Caerffili a Phorthladd Porthcawl.

Meddai Owen Sharp, Prif Weithredwr Dogs Trust: “We are so excited to have both Caerphilly County Borough Council and Bridgend County Borough Council on board to bring A Dog’s Trail with Snoopy to their communities.

“The trail’s aim is to raise pounds for hounds so that we can continue to improve dog welfare in Wales. We know that it is going to be a spectacular event for everyone who joins in and we’re excited to make A Dog’s Trail a lasting legacy, just like Snoopy himself!

“Sponsorship of a Snoopy sculpture is a fabulous opportunity and there are many exciting ways to benefit from a collaboration with us whilst supporting Dogs Trust’s amazing work. We’re keen to hear from any businesses who’d like to get involved in this way and make their mark on this exciting event.”

Mae  Wild in Art wedi dod â chymunedau ynghyd â’i lwybrau cerfluniau mewn dinasoedd ledled y byd. Eu llwybr celf cyntaf yng Nghymru oedd Snowdogs, Tails in Wales a ddaeth i Gaerdydd yn 2017. Hyd yma, mae ei ddigwyddiadau wedi cyfrannu mwy na £15 miliwn i elusennau a £2.4 miliwn i gymunedau creadigol.

An image of Snoopy stood in front of Caerphilly Castle

Meddai’r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu A Dog’s Trail with Snoopy i Gaerffili a helpu i greu digwyddiad celf gyhoeddus a fydd â’r potensial i godi proffil tref Caerffili fel cyrchfan i’w hymweld, codi llawer o arian i’r Dogs Trust, wrth ddathlu’r creadigrwydd a’r gymuned sydd wrth wraidd ein tref.

 Bydd chwe cherflun Snoopy yn cael eu harddangos i bawb eu mwynhau ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn dod yn fyw. ”

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Dogs Trust i ddod â A Dog’s Trail with Snoopy i Borthcawl. Bydd yn gyfle gwych i’r dref, gan helpu i roi hwb i’r economi leol wrth fod o fudd i elusen wych sydd â chysylltiadau sefydledig â’r fwrdeistref sirol.

“Bydd y cerfluniau Snoopy yn cynnig arddangosfa liwgar o gelf ar draws Porthcawl i drigolion, ymwelwyr a thwristiaid ei darganfod wrth godi arian at achos da.”

Am unrhyw gwestiynau ynghylch ‘A Dog’s Trail’ yng Nghaerffili, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Am fanylion llawn y digwyddiad a gwybodaeth ynghylch cyfleoedd i gymryd rhan yn y llwybr, ewch i https://adogstrail.org.uk/cy/