Busnesau twristiaeth a lletygarwch Caerffili yn troi adfyd yn gyfle

Er nad yw wedi bod yn hawdd, gyda’r newidiadau cyson o ran canllawiau’r llywodraeth a gweithredu mesurau diogelwch a chyfyngiadau symud lleol, mae nifer o fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn addasu eu ffocws yn barhaus, gan gynnal gwaith adnewyddu a datblygu i sicrhau nad yw anawsterau 2020 yn rhwystro eu dyfodol.

The Meadows Farm Village Retreat, sef profiad anifeiliaid rhyngweithiol, yw un o atyniadau gorau a diweddaraf Caerffili. Gan ddod â chyfoeth o hwyl a sbri i gymaint o deuluoedd ac oedolion dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae nawr gan yr atyniad sy’n ehangu’n barhaus geirw, walabïod a swricatiaid! Maen nhw’n mynd o nerth i nerth ac, yn ddiweddar, gwnaethon nhw gyflwyno siop goffi, bar ar y safle ac mae ganddyn nhw ben-cogydd mewnol sy’n coginio prydau ffres gan gynnwys cinio dydd Sul yn y man eistedd newydd mewn pabell fawr. Mae yna amrywiaeth o gynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y misoedd nesaf, felly cadwch lygad allan!

Dywedodd Katherine Watkins, perchennog a rheolwr, “Mae’r 6 mis diwethaf yn sicr wedi bod yn her, ond rydyn ni wedi llwyddo i barhau i esblygu’r busnes ac mae’n tyfu ac yn gwella. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyflogi staff ychwanegol ac rydyn ni’n falch o greu cyflogaeth ac ychwanegu at yr economi ymwelwyr yn yr ardal.”

Mae The Meadows yn un o nifer o fusnesau sy’n cynnal safonau uchel i drigolion lleol ac ymwelwyr yn ystod COVID-19. Mae Gellihaf House, sef llety gwely a brecwast bwtîg sy’n eiddo i ac yn cael ei redeg gan deulu ar gyrion Coed Duon, wedi bod yn brysur yn adnewyddu’r Tŷ ar ôl bod ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud. Maen nhw bellach ar agor a gwnaethon nhw groesawu eu gwesteion cyntaf o Fwrdeistref Sirol Caerffili benwythnos diwethaf. Mae The Fork & Tune yng Nghwmcarn wedi bod yn destun llwyth o waith adnewyddu dros y misoedd diwethaf ac, yn ddiweddar, agoron nhw siop goffi, sy’n ychwanegu mwy fyth at y datblygiadau busnes sy’n digwydd yn yr hen ‘Cwmcarn Hotel’.

Dywedodd y Perchennog, Vinny, “Roedd adfer wyneb adeilad hanesyddol Cwmcarn Hotel yn hollbwysig wrth hybu morâl yn ystod y cyfyngiadau symud, gan roi gobaith i’r gymuned am y dyfodol.” Meddai wedyn, “mae’r siop goffi yn dod â rhyddhad y mae mawr ei angen i’r rhai sy’n gweithio gartref.”

Fe wnaeth Robin, perchennog a rheolwr y Castle Gate Indian Restaurant aml-wobrwyol yng Nghaerffili, bachu ar y cyfle i ehangu yn ystod y cyfyngiadau symud. Gyda’r busnes yn cau dros dro ym mis Mawrth oherwydd COVID-19, gwnaethon nhw ail-agor yn raddol gyda’u gwasanaeth tecawê, gan agor y bwyty am ychydig er mwyn bwyta dan do. Bryd hynny, penderfynodd y perchennog a rheolwr, Robin, fanteisio ar yr amser hwn. Wrth barhau gyda’r gwasanaeth tecawê, bu adnewyddiad llawn i’r bwyty, gan ail-lansio fel ‘Castle Gate Indian Kitchen & Cocktail Bar’.

Dywedodd Robin, “Yn dilyn cau’r bwyty y tro cyntaf, penderfynon ni fanteisio ar yr ansicrwydd. Gyda llai o gapasiti i fwyta dan do, penderfynon ni i ganolbwyntio ar y gwasanaeth tecawê yn unig a defnyddio’r amser i ailwampio ein bwyty yn llawn. Roedd y digwyddiad ailagor yn llwyddiant mawr ac rydyn ni’n ysu am gael agor i gapasiti llawn unwaith eto. Am y tro, byddwn ni’n mwynhau ac yn croesawu’r holl fasnach leol sy’n dod ac yn parhau i weini bwyd o safon dda i’n cwsmeriaid.”

Lleoliadau eraill, sydd i gyd yn aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth Caerffili, sydd wedi bod yn brysur yn cynnal gwaith gwella yn ystod COVID-19 yw: Neuadd y Gweithwyr Bedwas, Bistro 8, COFFI VISTA a Choedwig Cwmcarn. Cyflwynodd Escape Blackwood yr ail fusnes, ‘Padlock Pizza’, i’w fusnes ac mae Castell Cottages ar fin cwblhau 5 fflat gwyliau newydd ac ystafell gyffredin i gefn ei lety hunanarlwyo i ymwelwyr yng Nghaerffili.

Er ei bod yn wych gweld cymaint o fusnesau yn creu cyfleoedd ac yn ymdrechu i gyflawni prosiectau newydd, ni ellir anwybyddu nad yw hyn yn wir i bob busnes, gyda nifer ohonyn nhw ar gau o hyd, heb agor eu drysau ers mis Mawrth. Mae’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch ymhlith y diwydiannau a gafodd eu taro caletaf yn ystod y pandemig, yn enwedig gyda’r cyfyngiadau symud lleol yn ddiweddar.

Essential information