Rinc Iâ Castell Caerffili yn dychwelyd yn fwy ac yn well nag erioed

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Rinc Iâ Castell Caerffili y llynedd, mae Cadw’n falch o gadarnhau y bydd y Rinc Iâ’n dychwelyd i’r lleoliad eiconig o ddydd Gwener 6 Rhagfyr.

Bydd Castell Caerffili’n cael ei droi’n fyd Nadoligaidd am fis o ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2019 i ddydd Sul 6 Ionawr 2020. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau sglefrio y tu allan ar rinc iâ go iawn, blasu danteithion o gaffi pop-yp, ac mae ymweliadau gan Siôn Corn hefyd wedi’u trefnu.

Bydd y rinc iâ ar agor rhwng 12pm a 9pm ar ddydd Mercher a dydd Iau a rhwng 10am i 9pm ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul — y cyfle olaf i sglefrio am 8pm — gyda phob slot yn para 45 munud. Bydd y rinc ar gau ar ddydd Llun a dydd Mawrth.

Dylid archebu sesiynau sglefrio, o fewn muriau castell mwyaf Cymru, ar-lein o flaen llaw ar ticketsource.co.uk/caerphilly-castle-ice-rink, gyda thocynnau’n costio  £6.50 i blant o dan 14, £9 i oedolion, a £27 i deuluoedd (dau oedolyn a dau blentyn), gyda phris llogi esgidiau sglefrio wedi’i gynnwys yn y pris.

Bydd deg cymhorthydd siâp pengwin ar gael bob sesiwn am gost ychwanegol ar gyfer yr ymwelwyr iau, (cyntaf i’r felin) gyda phlant 3-7 oed ond yn cael sglefrio pan fyddant yng nghwmni oedolyn.

Mae archebion ysgol gostyngedig ar gael rhwng 12pm a 5pm ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener trwy ffonio 02920 099087.

Mae consesiynau arbennig hefyd ar gael ar archebion grŵp yn ystod yr wythnos ar gyfer clybiau, corau, timau chwaraeon lleol a phartïon swyddfa o 12pm-5pm.

Mae croeso i ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn fynd ar y rinc iâ, ond rhaid bod rhywun yn gwmni iddynt. Yn y cyfamser, bydd sesiynau yn addas i bobl Awtistig yn cael eu cynnal ar ddydd Sul, 15 Rhagfyr am 10am ac ar ddydd Mercher 18 Rhagfyr am 12pm.

Mae’r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Cadw mewn partneriaeth â Canolfan Siopa Castle Court, Cyngor Sir Caerffili, Cyngor Tref Caerffili, Trafnidiaeth Cymru a 11th Hour.

Mae’r digwyddiad hefyd yn gysylltiedig â chynllun buddsoddi £5.3m Cadw sydd â’r nod o drawsnewid y Castell yn atyniad treftadaeth o’r radd flaenaf, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwneud yr heneb yn fwy cynaliadwy. Yn seiliedig ar uwchgynllun a gwblhawyd yn ddiweddar, bydd y rhaglen uchelgeisiol newydd hon yn gwella profiad ymwelwyr yn trwy well croeso, llifoleuadau, cynnig arlwyo a dehongli arloesol. Bydd gwaith cadwraeth hanfodol hefyd yn helpu i wella eu dealltwriaeth a’u mwynhad o un o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Elis-Thomas:

 “Yn dilyn llwyddiant llynedd, rydym yn falch o gyhoeddi cynlluniau i ddod â phrofiad sglefrio ar iâ i Gastell Caerffili. Rydym ni’n edrych ymlaen at croesawi pobl o bob oed yn mwynhau’r castell godidog hwn cyn y Nadolig”.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dwristiaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

“Mae’r ffaith bod y rinc iâ yn dychwelyd i Gastell Caerffili yn newyddion da, nid yn unig i’n trigolion lleol ond hefyd i ymwelwyr â’r ardal. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda Cadw i hyrwyddo Caerffili fel cyrchfan i dwristiaid ac rydym yn falch o’u cefnogi wrth lansio rinc iâ a digwyddiadau Nadoligaidd eleni”.

Essential information

CTA Member