Marchnad Nadolig Caerffili

December 8, 9:00am - 2019-12-08 16:00:00

Marchnad Nadolig Caerffili yw’r lle gorau i fynd er mwyn teimlo naws Nadolig. Profwch olygfeydd, synau ac arogleuon tref a chastell sy’n paratoi ar gyfer y Nadolig gyda bwyd blasus, arogl gwin poeth, theatr stryd gyffrous a thros 100 o stondinau bwyd, crefft ac anrhegion.

Mae’r farchnad hudol hon dros 2 ddiwrnod yn boblogaidd iawn yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth ymweld â Marchnad Nadolig Caerffili, peidiwch ag anghofio mynd i Farchnad y Ffermwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Crefftau Caerffili wrth y Senotaff a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt-y-castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt-y-castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Marchnad Nadolig Caerffili a chymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr y dref.

DIGWYDDIAD AM DDIM yn y dref. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.

Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan newydd sbon www.marchnadnadoligcaerffili.co.uk, ffonio’r Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfon e-bost digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Essential information

Address
Address
Caerphilly Town Centre
CF83 1JL
Contact Name
Contact
The Visitor Centre - Caerphilly
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011
Website
Social Media
Facebook
Charges
Charges
FREE event in the town - Admission charges apply for the Castle

Downloads

Gwybodaeth a Chau Ffyrdd yn Ystod Digwyddiadau’r Nadolig – Cymraeg >

Taflen Ddigwyddiadau – Cymraeg >

Rhaglen Adloniant >

Disgrifiadau o'r Stondinau >

Gwerthwyr Bwyd Stryd >

CTA Member

You may also be interested in: