Teithiau Cerdded Nordig Caerffili

Beth am roi cynnig ar Gerdded Nordig?  Mae Teithiau Cerdded Nordig Caerffili yn gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a’r cyffiniau, gan gynnwys golygfeydd prydferth o’r cefn gwlad trawiadol.

Arweinir teithiau cerdded gan Ed, sy’n hyfforddwr Cerdded Nordig cymwys gyda Cherdded Nordig Prydain. Deilliodd Cerdded Nordig o ranbarth Llychlyn ac mae wedi bod ym Mhrydain ers 2005.

Mae’n ymarferiad cyffredinol cyflawn gyda llawer o fanteision iechyd, gan gynnwys:

  • Llosgi 46% yn fwy o galorïau na cherdded cyffredin
  • Cryfhau cyhyrau’r cefn a’r abdomen
  • Effaith isel ar gymalau
  • Ymarfer corff cardiofasgwlaidd a chyflawn gwych
  • Gwella osgo

Mae pob sesiwn yn para tua 1 awr 30 munud, gyda chyfnodau twymo ac oeri. Dyfynnwch ‘CTA’ er mwyn trefnu sesiwn blasu am ddim.

Yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.

Teithiau Cerdded:

Dydd Llun – Canolfan Gwlyptiroedd Casnewydd a Thŷ Tredegar (bob yn ail wythnos)
Dydd Mercher – Ardal Coed Duon – Gelligroes, Pengam, Wyllie (bob yn ail wythnos)
Dydd Iau – Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg, Tŷ-du.
Dydd Gwener – Ffordd Goedwig Cwmcarn
Dydd Sadwrn – Taith gerdded camlas Pont-y-waun gyda stop yn y caffi.
Pob un am 11am.

Darperir Polion Nordig a’r tâl yw £5 y sesiwn ym mwrdeistref Caerffili a Chasnewydd.

Essential information

Contact Name
Contact
Ed Woolley
Email
Email Address
etwoolley@hotmail.co.uk
Phone
Phone
07906 365280
CTA Member

You may also be interested in: