Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell

30 - 31 Awst 2025 (Gweld amseroedd dyddiol)
  Canolfan Siopa Cwrt y Castell, Caerffili CF83 1NU
  029 2086 4221   castlecourtcraftfair@yahoo.com

Mae Marchnad Grefftau a Bwyd Cwrt y Castell yn gartref i grefftau, bwyd a diodydd a gynhyrchir yn lleol.  Gyda dros 20 o stondinau, mae gennym ystod fawr o eitemau nad ydynt bob amser i’w cael ar y Stryd Fawr.

Mae dros 50% o’n stondinwyr yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gyda’r gweddill yn dod o awdurdodau cyfagos.  Mae cael cynhyrchwyr Cymreig yn hynod bwysig i ni gan ein bod yn hoffi cefnogi busnesau bach lleol gymaint ag y gallwn.

Mae’r farchnad yn digwydd unwaith y mis – rhestrir yr holl ddyddiadau ar y tudalennau digwyddiadau.  Rydym wedi ein lleoli yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell sydd yng nghanol y dref gyferbyn â Chastell Caerffili. Mae gennym 3 awr o barcio am ddim yn y ganolfan siopa sy’n wir fantais i’r farchnad.

Rydym hefyd yn cynnal ein marchnadoedd ar ddiwrnodau fel Gŵyl y Caws Caerffili, Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili a Ffair y Gaeaf, Caerffili.  Rydym yn lwcus iawn i gael y Llwyfan Band yr ydym yn ei ddefnyddio ym mhob marchnad er mwyn i grwpiau lleol arddangos eu doniau.

Gwybodaeth bellach

Amseroedd dyddiol y digwyddiad

Dydd Sadwrn 30 Awst, 10:00am-4:00pm
Dydd Sul 31 Awst, 10:00am-4:00pm

Lleoliad