Wedi’i enwebu dwywaith fel un o’r 100 bwyty Indiaidd gorau yn y Deyrnas Unedig gan y British Curry Awards, mae Castle Gate wedi sefydlu’i hun fel un o fwytai Indiaidd mwyaf poblogaidd De Cymru.
Wedi’i leoli yn nhref gaerog hanesyddol Caerffili, ychydig o filltiroedd i’r gogledd o Gaerdydd, mae Castle Gate yn cynnig ystod eang o fwyd Indiaidd traddodiadol ac aml-wobrwyol sydd wedi’i weini gan staff hyfforddedig i sicrhau bod eich profiad yn un heb ei ail!
Gallwch osgoi’r broblem o barcio hefyd. Mae gan Castle Gate faes parcio helaeth i 50 o geir neu’n fwy, felly mae ymweld yn hawdd. P’un a ydych chi’n cynllunio pryd o fwyd clyd i ddau, neu eisiau cadw lle ar gyfer grŵp o 80 o bobl, Castle Gate yw’r dewis perffaith!
Dyrannwyd pum gwobr i Catle Gate yn V Awards 2019, gan gynnwys ‘Restaurant Takeaway of the Year’, ‘5 Star Indian Takeaway of the Year’ a ‘Indian Restaurant of the Year Award’.
Does dim syndod bod y South Wales Echo wedi disgrifio pryd o fwyd ym mwyty Castle Gate fel “A thoroughly enjoyable experience!”
Nos Fawrth yw Noson Wledda
£14.75 Cael pryd yn y Bwyty yn Unig (Yn dibynnu ar argaeledd)
Dydd Sul yw Bwffe Dêl y Dydd
1.00pm – 9.00pm
Bwyta llond eich bol am £12.95 yn unig (oedolion) £5.95 (plant dan 10 oed)
Dewiswch o hyd at 20 o brydau!