Mae gan Fforest Cwmcarn rywbeth i’r teulu cyfan. Y ganolfan ymwelwyr yw’r lle delfrydol i gyfarfod, i brynu lluniaeth ac i gael gwybod beth allwch chi ei wneud yn yr ardal. Gallwch ymlacio yng nghaffi Raven a blasu amrywiaeth o brydau a byrbrydau wedi’u coginio’n ffres, neu bori drwy’r amrywiaeth fawr o nwyddau cartref ac anrhegion yn ein man rhoddion.
Gydag amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i’r teulu cyfan – llwybr fforio i blant, pysgota, beicio mynydd a llawer o lwybrau cerdded i bobl o bob gallu.
Mae gennym raglen helaeth o ddigwyddiadau sy’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn. Gallwch Gofleidio Draenog, creu bocs adar, adeiladu’ch roced eich hun a’i lansio i’r gofod.
Mae gan Lwybr Twrch bopeth – dringfeydd ymestynnol, disgyniadau sy’n plymio a darnau technegol anodd. Ceir 15.5cilomedr o lwybr sy’n untrac bron i gyd i gyflymu curiad eich calon. Gorau oll, mae Llwybr Twrch AM DDIM a gallwch ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn.
Dewch i brofi rhai o’r llwybrau cerdded gorau yng Nghymru, gyda’n teithiau hunan-dywysedig i bobl o bob gallu, i weld y bywyd gwyllt a golygfeydd godidog Fforest Cwmcarn. Gall y rhai mwy egnïol gerdded yr holl ffordd at fryngaer Twmbarlwm i weld y golygfeydd panoramig ysblennydd.
Os ydych chi’n hoffi’r syniad o wersylla ond yn casáu pryfed, byddwch wrth eich bodd â’r pod ffrâm bren. Dewch â’ch holl offer gwersylla heblaw’r babell. Mae rhan o’r feranda dan do, ac yn berffaith i fwynhau pryd o fwyd neu ymlacio â gwydraid o win. Yr union beth ar gyfer gwyliau byr neu arhosiad dros nos heb y drafferth o bacio pabell wlyb.
Ar hyd glannau nant Nantcarn ceir maes gwersylla â 4 seren gan Groeso Cymru. Dyma faes carafanau a phebyll â chyfarpar o bob math, gan gynnwys cysylltiadau trydanol, cegin, ystafell golchi dillad, cawodydd a thoiledau, a man gwaredu gwastraff cemegol.
Mynediad i’r ganolfan ymwelwyr a llawr y cwm am ddim. Mae’r Ffordd Goedwig ar gau ar hyn o bryd er mwyn gwaredu coed llarwydd heintus.