Dewis Lleol – B Thomas Pet and Garden Supplies

B Thomas Pet and Garden Supplies

B Thomas Pet and Garden Supplies yw eich siop un stop chi ar gyfer popeth i’ch anifeiliaid a’ch gardd chi. Ar ôl agor yn y 1950au, mae B Thomas Pet and Garden Supplies yn un o’r siopau sydd wedi hen sefydlu ym Margod. Ar hyn o bryd, Sam Collins yw’r perchennog ac mae’r busnes teuluol hwn yn galon i’r gymuned, nid yn unig ym Margod, ond yn y Fwrdeistref Sirol gyfan.

Wedi’i leoli ar Hanbury Road, Bargod, mae gan B Thomas Pet and Garden Supplies bopeth y gallai rhywun sy’n caru anifeiliaid ei eisiau. O fwyd, teganau ac ategolion i anifeiliaid anwes, i bysgod, ymlusgiaid ac anifeiliaid bach.
Ar gyfer y rhai sy’n hoff o arddio, maen nhw hefyd yn stocio ystod eang o bethau sydd eu hangen yn yr ardd, gan gynnwys potiau, offer garddio a phlanhigion. Os nad oes ganddyn nhw rywbeth, byddan nhw’n gwneud eu gorau glas i’w gael i chi!

P’un a ydych chi’n lleol i Fargoed neu’n byw yn y Fwrdeistref Sirol, mae B Thomas Pet and Garden Supplies hefyd yn cynnig dosbarthu nwyddau i’ch drws ffrynt chi. Nid oes angen i chi boeni am gyfyngiadau nac argaeledd ychwaith, fel busnes hanfodol, bydd B Thomas Pet and Garden Supplies yn parhau i ddarparu eu gwasanaethau nhw y mae mawr eu hangen i’r gymuned.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member