Dewis Lleol – Hancox’s Pies

Hancox’s Pies

 

Mae’r busnes gwobrwyol, Hancox’s Pies, yn cynnig cynnyrch Cymreig a Phortiwgeaidd blasus i’r Fwrdeistref Sirol, o’u popty a siop delicatessen ym Margod.

Ers cychwyn y busnes yn ystod y cyfyngiadau symud, mae eu llwyddiant wedi gyrru Hancox’s Pies i safle mwy, newydd gydag ardal eistedd fach a gwasanaeth tecawê. Gan dyfu o hyd, mae Hancox’s Pies yn gobeithio ehangu unwaith eto – gydag awydd i gynnig ardal eistedd fwy i gwsmeriaid.

Mae’r perchennog, Alexandre Hancox, yn treulio oriau lawer yn pobi ac yn paratoi’r holl ddanteithion blasus sydd ar gael yn y siop, ac yn falch o gynnal ryseitiau ei fam. Mae Alexandre a’i dîm yn pobi popeth yn ffres, bob dydd – gan gynnwys cacennau mawr, pasteiod, crystau, a pastéis de nata Portiwgeaidd traddodiadol.

Nid yw eu gwaith caled wedi osgoi sylw chwaith, gyda Hancox’s Pies yn ennill y wobr Unig Fasnachwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ym mis Ebrill 2022.

Mae modd pori eu danteithion blasus ar eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol (@hancoxspies) neu alw heibio i’w siop.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member