Dewis Lleol – Morbitorium

Morbitorium

Mae’r Morbitorium yn amgueddfa hen ffasiwn ar ffurf cwpwrdd hynodion, sydd wedi casglu rhai o’r eitemau mwyaf rhyfedd at ei gilydd o bedwar ban byd. Yr unig faen prawf? Rhaid i bopeth fod yn od neu’n arswydus!

Ac yntau’n sefyll ym mhentref tawel Pont-y-waun, mae’r bwthyn hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth ochr camlas Sir Fynwy, yn cynnwys casgliad syfrdanol o ryfeddodau. Mae arddangosfeydd sy’n cynnwys llên gwerin, henbethau meddygol, penglogau, wica a dewiniaeth, tacsidermi a’r goruwchnaturiol. Mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pethau rhyfedd mewn bywyd ymweld.

Dave Roberts a’i bartner sy’n berchen ar y Morbitorium, a’i reoli. Fe ddechreuodd fel stondin yng nghynhadledd arswyd Caerdydd ac mae wedi tyfu’n gasgliad sydd nid yn unig yn llenwi’r bwthyn ond sydd hefyd yn siop ar-lein!

Mae’r amgueddfa’n cynnig mynediad am ddim, ac mae’n bosibl rhoi arian i helpu cefnogi’r gwaith parhaus. Mae rhagor o wybodaeth am fynediad ar gael yma: www.morbitorium.co.uk

Essential information

Website
Social Media
Website
CTA Member