Mae Plant2plate yn arlwywr sefydledig yng Nghaerffili, yn arbenigo mewn prydau bwyd heb ychwanegion gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
Maen nhw’n darparu ar gyfer pob math o ddiet a gofynion, a oedd yn cynnwys bwffe oer yn ddiweddar i’w Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, arlwyo dyddiol poeth ar gyfer criw ffilmio a bwffe i Lywodraeth Cymru i nodi dechrau’r Uwchgynhadledd Hinsawdd eleni.
Roedd y siop ganol tref (gyda pharcio preifat wrth ei ymyl) yn un o’r siopau ail-lenwi Dim Gwastraff cyntaf yng Nghymru ac mae’n cyflenwi popeth o sbeisys rhydd a chyfleusterau ail-lenwi hylif golchi llestri i frwsys dannedd bambŵ a bariau siampŵ.
Maen nhw hefyd yn gwerthu cig organig, mêl lleol, wyau, surdoes cartref ac wrth gwrs eu prydau parod wedi’u gwneud â llaw a oedd yn sbardun i’r cyfan 20 mlynedd yn ôl!
Maen nhw’n credu bod dull dim gwastraff, lleol yn arbed adnoddau naturiol ac yn lleihau milltiroedd bwyd.
Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan https://www.plant2plate.co.uk/ neu dilynwch nhw ar Facebook @plant2plate
#DewisLleol