Dewis Lleol – Stanford Williams

Stanford Williams Ltd

 

Stanford Williams yw eich cyfrifwyr ardystiedig siartredig lleol. Mae’r tîm cyfeillgar o chwe chyfrifydd cymwysedig/rhannol gymwysedig yn falch o’ch helpu chi gyda phopeth ariannol. Boed yn gyfrifon a threth, cyflogres neu gynlluniau dechrau busnes a thwf, mae ganddyn nhw’r profiad i’ch cynghori chi ar gydymffurfiaeth ac amrywiaeth o wasanaethau cynghori busnesau.

 

Maen nhw’n credu nad oes ffiniau i ddaearyddiaeth, boed hynny drwy gyfarfodydd ar y we neu gymorth ar-lein, byddan nhw’n gweithio gyda chi o amgylch anghenion eich busnes. Ond, does dim curo ar gyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac maen nhw bob amser yn falch o sgwrsio!

 

Ers agor yn 2011, mae Stanford Williams wedi mynd o nerth i nerth – o ystafell wely gefn i swyddfa fawr yn y Stryd Fawr, Coed Duon. Mae ganddyn nhw gynlluniau mawr ar gyfer 2022 – agor swyddfa newydd yn Ystrad Mynach i wasanaethu ardal Ystrad Mynach/Caerffili yn well, a pharhau i feithrin sgiliau’r tîm.

 

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am eu cynlluniau a’u cyngor ar gael trwy eu gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

@stanfordwilliamsltd

www.stanfordwilliams.co.uk

Essential information

Website
Social Media
Facebook
Website
CTA Member