Dewis Lleol – The Crown Inn

The Crown Inn

Mae’r Crown Inn, Abercarn, yn eich croesawu chi i’r dafarn glyd hon – gan gynnig prydau blasus o fwyd, a lager, cwrw a gwirodydd gwych. Mae ysbryd cymunedol wrth galon y dafarn hon, gyda digwyddiadau wythnosol i annog hwyl, chwerthin a chwmni da. Mae’r Crown Inn yn falch o fod yn gyfeillgar i gŵn hefyd, felly, gall y teulu cyfan ymuno yn yr hwyl!

Ar ôl y cyfyngiadau llym yn sgil y pandemig, fe ddewisodd y Crown Inn dderbyn yr her a buddsoddi yn ei mannau awyr agored, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r mannau awyr agored bellach yn cynnwys gasebos mawr, gwresogyddion, cadwyni o oleuadau a seddi ychwanegol – perffaith ar gyfer diwrnodau o haf.

Mae gweithio ochr yn ochr â Shedlife Woodfired Pizza hefyd yn sicrhau bod y dafarn hon yn unigryw, gan ychwanegu rhagor o ddanteithion blasus at y dewis o fwyd. Mae’r Crown Inn hefyd yn gartref i gemau chwaraeon mawr, cwis ar nos Wener, cerddoriaeth fyw ar ddydd Sadwrn, a gemau ar nos Sul – mae’r dafarn hon, yn Abercarn, yn sicr o dicio pob bocs am noson allan wych.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member