Dewis Lleol – The Park Shop

The Park Shop

The Park Shop, sydd wedi’i lleoli yn Rhisga, yw eich siop ffrwythau a llysiau un stop sy’n cynnig bwyd ffres i chi yn syth i’ch drws chi. Mae The Park Shop, sy’n eiddo i Brinley Adams, wedi’i sefydlu yn Rhisga ers 1985, gan ehangu eu dewis o nwyddau, a oedd unwaith yn fach, i fod yn siop fawr o ffrwythau, llysiau a chyflenwadau anifeiliaid anwes.

Mae The Park Shop hefyd yn addas ar gyfer anghenion tymhorol pob cartref, o gyflenwadau garddio a phlanhigion yn ystod yr haf i goed a thorchau Nadolig. Gan edrych i gefnogi’r gymuned gyfan, mae’r busnes bach hwn hefyd yn gwasanaethu busnesau, cartrefi gofal ac ysgolion, gan gyflenwi eu holl ffrwythau a llysiau ffres nhw.

Fel busnes hanfodol, nid oes angen i chi boeni am unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol, a’r newyddion gorau yw bod The Park Shop hefyd yn cynnig dosbarthu i’r cartref am ddim, sy’n eich galluogi chi i deimlo’n ddiogel a heb straen. Y brif flaenoriaeth yw gwasanaethau i gwsmeriaid, ac mae The Park Shop wedi’i henwebu ar gyfer Gwobrau Busnes Gorau Cymru 2022 a nawr wedi cyrraedd yn rownd derfynol.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member