Dewis Lleol – Valley Craft

Valley Craft

Valley Craft yw eich siop grefftau leol chi sy’n llawn holl ofynion unrhyw egin grefftwr neu grefftwr profiadol. Wedi’i leoli yn Aberbargod, agorodd Gavin ac Ian Valley Craft yn 2008 ac mae’n dal i gael ei rheoli ganddyn nhw heddiw.

Ar ôl symud o Ystâd Ddiwydiannol Bowen yn 2012 i’w huned bresennol ym Mharc St Margaret, mae Valley Craft wedi gweld eu busnes bach nhw yn mynd o nerth i nerth. O gynnig ystod o ddeunyddiau a chyfarpar crefftio, mae Valley Craft hefyd yn cynnal gweithdai i’r gymuned gymryd rhan ynddyn nhw.

Roedd y pandemig yn anodd ar y busnes bach hwn, ond mae gwaith caled yn gallu goresgyn unrhyw rwystr, ac roedd Valley Craft yn benderfynol o wneud i bethau weithio. Gyda siop ar-lein weithredol, gall cwsmeriaid archebu ar-lein i’w dosbarthu neu gasglu yn y siop, gan ganiatáu i’r gymuned barhau â’u crefftau a’u hobïau, hyd yn oed yn ystod cyfyngiadau symud.

Porwch eu hystod crefftau ar-lein nhw drwy eu cyfryngau cymdeithasol neu eu gwefan nhw a rhoi cynnig ar hobi newydd heddiw gyda chymorth busnes bach, lleol.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member