Lights After Dark at Halloween

25 - 31 Hydref 2026 (Gweld amseroedd dyddiol)
  The Meadows Wildlife Park, Gypsy Lane, Caerffili CF15 7UN

Archebwch eich tocynnau yma!

Dewch i The Meadows Wildlife Park o ddydd Sul 25 Hydref i ddydd Sadwrn 31 Hydref ar gyfer Calan Gaeaf gyda gwahaniaeth! Dewch i archwilio ar ôl iddi dywyllu, gyda goleuadau â thema, tri thwnnel golau sy’n fflachio a choeden wedi’i goleuo. Dewch i fwynhau arddangosfeydd hydrefol, gweld rhai o’r anifeiliaid a phrynu bwyd poeth a diodydd cynnes y gaeaf.

Ar agor 5.30pm–9pm. Mynediad olaf am 7pm. Cyfle olaf i archebu bwyd yw 8pm.

Tocynnau: £10.95 fesul yr oedolyn neu blentyn 3 oed neu’n hŷn.

Nid yw tocynnau mynediad yn cynnwys pwmpenni.

Darllenwch cyn cadw lle:

  • Nid oes modd ad-dalu tocynnau.
  • Nid yw tocynnau yn cynnwys casglu pwmpenni, ardaloedd gweithgareddau Calan Gaeaf nac ardaloedd anwesu anifeiliaid.
  • Rhaid gwisgo esgidiau addas, gan y gall rhai ardaloedd fod yn wlyb ac yn fwdlyd.
  • Bydd rhannau o’r tiroedd yn dywyll neu â golau gwan. Ni fyddwch chi’n gweld pob anifail, a bydd rhai anifeiliad i ffwrdd er eu lles.

Mae Lights After Dark yn brofiad tymhorol gyda’r nos yn The Meadows ac ni ddylech chi ei gymharu ag atyniadau llwybr golau mawr.

Digwyddiadau yn The Meadows Wildlife Park