Diwydiant twristiaeth Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cipio tair gwobr yng Ngwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru

Daeth Gwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru â busnesau a sefydliadau twristiaeth o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru ynghyd ar gyfer seremoni wobrwyo yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, ar ddydd Iau 13 Chwefror.

Roedd Tîm Digwyddiadau a Marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o gael y wobr ‘Digwyddiad Gorau’ ar gyfer Gŵyl y Caws Mawr. A hithau wedi’i sefydlu dros 20 o flynyddoedd yn ôl, mae’r ŵyl yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol; yn 2019, cafodd yr ŵyl ei hadnewyddu drwy roi gwedd newydd sbon arni. Roedd lolfa fyw gyda chynhyrchwyr diod lleol a gwerthwyr bwyd stryd yn rhoi dimensiwn newydd i’r arlwy bwyd yn yr ŵyl. Castell Caerffili oedd seren y sioe o hyd, gydag arddangosfeydd a gwersylloedd ail-greu canoloesol. Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 24–26 Gorffennaf.

Llwyddodd Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson, i gipio’r wobr ‘Atyniad Gorau i Ymwelwyr’. Ac yntau’n cynnig profiad unigryw i ymwelwyr a rhaglen ddigwyddiadau lwyddiannus, mae Maenordy Llancaiach Fawr yn gyfle i ymwelwyr ymgolli eu hunain wrth deithio’n ôl i ddiwrnod ym mywyd gweision y maenordy ym 1645. Mae gogoniant y maenordy, yr ysgubor a’r gerddi yn golygu ei fod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynnal priodasau a digwyddiadau.

Roedd perchnogion llety gwely a brecwast Gellihaf House, Cath a Howard Smith, yn falch iawn o ennill y wobr ‘Llety Gorau i Westeion’. Cafodd y llety gwely a brecwast, ar bwys Coed Duon, ei adeiladu yn null y Mudiad Celfyddyd a Chrefft, ac mae wedi cael ei adfer yn ofalus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac yntau’n sicrhau perffeithrwydd, mae’r llety gwely a brecwast bwtîc hwn yn sicr o wneud argraff gyda’i naws urddasol ond croesawgar. Byddai brecwast blasus Cath yn edrych, ac yn blasu, cystal â brecwast unrhyw westy moethus.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cynnwys yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol ym mis Mai, dan ofal Llywodraeth Cymru, yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.

Essential information