Sefydlwyd ‘Escape Blackwood’ gan Adrian Turner ym mis Mai y llynedd, un o lawer o atyniadau o’r fath lle mae ymwelwyr yn cael eu cloi mewn ystafell a rhaid iddynt ddefnyddio nifer o gliwiau i ddod o hyd i’w ffordd allan o fewn yr amser penodedig. Mae ffrwyth ei lafur wedi cael ei gydnabod ar ôl i’r busnes gael ei enwi’n Ddarparwr Profiad Ystafell Ddianc Mwyaf Eithriadol yng Nghymru yng ngwobrau SME Business Elite.
Daeth y gydnabyddiaeth ychydig o wythnosau ar ôl i’r atyniad gael ei enwi’n ganolfan ystafell ddianc orau de Cymru yng ngwobrau Atyniadau i Deuluoedd ac Ymwelwyr y cylchgrawn LUXlife.
Cafodd Escape Blackwood hefyd ei enwi fel terfynwr yn y National Family Business Awards 2019 ac mae hefyd yn yr ail safle ar Trip Advisor am bethau i’w gwneud yng Nghoed Duon.