Mae’r gwanwyn eisoes wedi cyrraedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac rydyn ni’n parhau i gadw pethau’n mynd yn dda gyda digwyddiad NEWYDD SBON – Ffair Calan Mai, Bargod, ar Ddydd Sadwrn 13 Mai!
Gydag amrywiaeth o stondinau yn llawn busnesau bach anhygoel, adloniant cyffrous a reidiau ffair ffantastig, mae Ffair Calan Mai, Bargod, yn addo rhoi hwb mawr i Fargod!
Dewch draw am ddiwrnod llawn hwyl a sbri, a chyfle i gefnogi’r dref, y stryd fawr a busnesau lleol!
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol!
Ariennir y digwyddiad hwn ar y cyd gan Gyngor Tref Bargod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.