Goroesi’r Feirws

Goroesi’r Feirws: Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Amrywiaethu

Mae’r pandemig coronafeirws wedi achosi anhrefn i fusnesau bach ledled y wlad ac mae llawer wedi cael eu gorfodi i gau a cheisio cymaint o gymorth ariannol â phosibl gan y llywodraeth. Ond mae positifrwydd yn yr holl dywyllwch, ac nid yw busnesau twristiaeth a lletygarwch Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gadael i’r argyfwng coronafeirws eu cadw i lawr.

Mae Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili yn helpu busnesau twristiaeth drwy’r cyfnod tywyll hwn drwy ddarparu diweddariadau cyson ar gymorth ariannol, annog rhwydweithio ar grŵp Facebook y Gymdeithas a bod wrth law i ateb cwestiynau a helpu cymaint â phosibl. Mewn addewid i gefnogi’r busnesau bach sydd wedi amrywiaethu eu gwasanaeth a’u cynnig cynnyrch, mae gweithwyr y Gymdeithas a Thîm Adnewyddu Menter Fusnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi creu canllaw – ‘Working Together During Coronavirus’ – sy’n rhoi sylw arbennig i fusnesau sy’n dal ar agor ac sy’n cynnig gwasanaethau casglu a dosbarthu. Mae llawer o ddarparwyr llety i ymwelwyr yn cynnig gostyngiadau i weithwyr y GIG ac mae rhai tafarndai wedi troi eu hunain yn siopau cornel! Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com/adapting-to-change/ a lawrlwytho’r canllaw.

Ymhlith y busnesau sy’n amrywiaethu mae bwyty Mediteranaidd Casa Mia yng Nghaerffili. Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd eithriadol, gwnaeth y perchnogion, Lee Edwards a John Gunderson, benderfyniad cyflym i addasu i’r amgylchedd a roddwyd o’u blaenau. Digwyddodd dros nos ac ar adeg pan oedd y bwyty yn hynod o brysur ac yn aros am Sul y Mamau. Nid oedd dosbarthu pitsas ar lwybr gyrfa Lee a John, ond roedd yn rhaid iddynt dorchi eu llewys a bwrw ymlaen! Mae’r staff yn Casa Mia yn teimlo’n falch wrth weld y gefnogaeth gadarnhaol a’r sylwadau hyfryd ar-lein. Dywedodd Lee, sydd hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Caerffili, “Mae cwsmeriaid wrth eu bodd ein bod yn cynnig gwasanaeth dosbarthu ac rydym yn ddiolchgar ein bod wedi gallu amrywiaethu a chadw Casa Mia i fynd o dan amgylchiadau mor ofnadwy. Byddwn yn parhau i wasanaethu’r gymuned ac yn edrych ymlaen at allu sicrhau bod ein cwsmeriaid yn mwynhau eu hunain; rydym mor ddiolchgar amdanynt.

http://www.casamiacaerphilly.co.uk/

Agorodd bwyty The Fork & Tune yn Cwmcarn Hotel ei ddrysau ym mis Mehefin 2019 ac yna, naw mis yn ddiweddarach, bu’n rhaid iddo gau ei ddrysau oherwydd y pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, ni wnaeth hynny rwystro’r perchnogion, Vinny ac Anja Francis; gyda meddwl cyflym dros nos a llwyth o frwdfrydedd, ailagoron nhw drannoeth fel ‘The Fork & Tune Takeaway Restaurant’, gan greu ap archebu ar-lein theforkandtune.com. Dywedodd Anja, “Gan fod y genedl mewn sioc ac oherwydd y cyfyngiadau symud, roedd yn rhaid i ni feddwl ar ein traed. Gyda’r ansicrwydd o beidio â gwybod pa mor hir y bydd hyn yn parhau, aros ar agor a bod yn help i’r gymuned oedd ein prif nod. Mae’r ymateb wedi bod yn ysgubol ac rydym yn tyfu’n gyflym gyda’r galw. Mae cwsmeriaid yn archebu prydau annisgwyl i aelodau’r teulu na allant fod gyda nhw ac maent yn ddiolchgar iawn i ni am fywiogi eu diwrnod. Mae achlysuron arbennig yn cael eu dathlu gyda phrydau gourmet wedi’u coginio’n ffres ac mae’r gymuned wledig yn synnu y byddwn ni’n gyrru mor bell â hynny i’w dosbarthu.”

Y cam nesaf yw sicrhau bod y bwyty ar gael fel siop fferm/marchnad leol i gynhyrchwyr werthu ohoni. Mae’r gymuned leol yn gwyro oddi wrth archfarchnadoedd ac yn prynu bwydydd lleol. Mae cigyddion a gwerthwyr llysiau yn brysurach nag erioed. Mae Anja a Vinny yn credu’n gryf mewn gweithio mewn partneriaeth ac yn teimlo ei bod hi’n bryd i ni i gyd gydweithio. Yn y tymor hir, maent yn bwriadu meithrin perthnasoedd â busnesau lleol a chynnal marchnadoedd ffermwyr rheolaidd yng nghwrt y gwesty.

https://www.theforkandtune.com/

Ar hyn o bryd, mae Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili yn cynnig aelodaeth AM DDIM tan 1 Hydref 2020 i roi’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch nawr ac i baratoi ar gyfer yr adeg y gall busnesau ailagor. Mae’n bryd i fusnesau ddod at ei gilydd a helpu ei gilydd drwy rannu gwybodaeth a chyngor. Ar hyn o bryd, mae gan y Gymdeithas 75 o aelodau o bob sector twristiaeth gan gynnwys llety i ymwelwyr, atyniadau, gweithgareddau, bwytai, tafarndai, caffis a chynhyrchwyr lleol. Os ydych yn fusnes sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac yr hoffech ymuno â’r Gymdeithas, cysylltwch â Stacy Francis, Cydlynydd y Prosiect, ar caerphillytourism@yahoo.com.

Essential information

CTA Member