Unwaith eto, canol tref Bargod fydd lleoliad cerddoriaeth gorau Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod, yn dychwelyd ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf!
Ac yntau’n cynnwys sawl ardal canu ar y stryd ledled canol y dref ac yn cysylltu â lleoliadau Bargod fel The Square Royale, Murray’s a Bourton’s Live Music Café Bar, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i wneud i chi dapio’ch traed ac ymgolli yn y gerddoriaeth!
Bydd cwrtiau yfed ledled y dref ochr yn ochr â’r lleoliadau allweddol hyn, yn ogystal â detholiad o fariau ar Lowry Plaza a Sgwâr Hanbury. (Sylwch: Mae caniatâd i yfed alcohol yn y cwrtiau yfed dynodedig yn unig. Nid oes modd yfed alcohol yn unrhyw le arall ar y safle.)
Yn ogystal, bydd reidiau ffair a llawer o stondinau bwyd a diod ar y safle i helpu i greu’r diwrnod perffaith er mwyn ymlacio, dawnsio a chael ychydig o hwyl hafaidd!
Hefyd, cofiwch edrych ar yr hyn sydd gan fusnesau a lleoliadau gwych canol tref Bargod i’w gynnig i ddathlu’r diwrnod, yn ogystal â Ffair a Marchnad Grefftau Bargod, sy’n cael ei chynnal gan Crafty Legs Events!
Manylion y rhaglen gerddoriaeth ac adloniant i ddilyn – cadwch lygad am hynny!
Arienni’n rhannol y digwyddiad hwn gan Gyngor Tref Bargoed a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd rhaglen adloniant lawn yn cael ei chyhoeddi yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae parcio cyhoeddus am ddim ar gael yn y meysydd parcio canlynol:
❗️ Cofiwch wirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Mae Gorsaf Drenau Bargod a Gorsaf Fysiau Bargod wedi’u lleoli’n agos at ben y Stryd Fawr o safle’r digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Fargoed ac oddi yno, ewch i wefan Traveline Cymru neu Trainline.
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Gellir dod o hyd i raciau beiciau yn yr ardaloedd canlynol o Ganol Tref Bargod:
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.