Gorymdaith Nadolig wych drwy ganol y dref, wedi’i dilyn gan arddangosfa tân gwyllt ysblennydd uwchben Castell Caerffili.
Mae’r orymdaith yn dechrau ym maes parcio a theithio gorsaf drenau a bysiau Caerffili, ac yna’n mynd drwy’r dref y tu ôl i Gastell Caerffili (Heol y Cilgant).
Bydd dawnswyr Samba, bandiau Jazz a dawnswyr yn cyd-deithio â’r gorymdeithwyr, gan greu môr o liw drwy’r dref. Dewch â’ch llusern eich hun a byddwch yn rhan o’r digwyddiad blynyddol hwn.
Dyma gyfle i chi gael ychydig o hwyl gyda’r teulu. Dewch â’r plant i wneud llusern Nadoligaidd yn barod ar gyfer yr orymdaith. Bydd y gweithdai yn cynnig profiad difyr i’r hen a’r ifanc. Gall plant ddefnyddio’u sgiliau creadigol a bydd oedolion yn cael y cyfle i ymddwyn fel plant a dangos eu doniau!
Gweithdai yn Eglwys Fethodistiaid Wesley, Caerffili (10am – 5pm):
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
Gweithdai yng Nghanolfan Hamdden Caerffili (10am – 5pm):
Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr a dydd Sul 15 Rhagfyr