Gwesty Llechwen Hall

Llety moethus â golygfeydd godidog dros gefn gwlad Cymru.

Saif mewn man tawel a gall ymwelwyr ddisgwyl cael eu hudo gan yr addurniadau a dodrefn hardd a chael gwasanaeth â thinc bersonol gan dîm sy’n ymfalchïo mewn gwneud ichi deimlo eu bod yn edrych ar eich ôl.

Mae ugain o ystafelloedd gwely unigol wedi’u dodrefnu’n hyfryd sy’n cynnwys rhai sylfaenol, rhai dethol a rhai â gwely pedwar postyn. Mae gan bob ystafell gyfleusterau baddon a chawod en suite, teledu LCD, WiFi am ddim a golygfeydd dros gefn gwlad godidog Cymru.

Os ydych chi’n chwilio am le arbennig i fwyta, bwyty Neuadd Llechwen, sydd â Rhoséd yr AA, yw’r lle delfrydol. Caiff ciniawyr brofi bwyd penigamp wedi’i baratoi i’r safonau uchaf. Mae’r prif gogydd a’i dîm yn teimlo’n angerddol dros eu gwaith ac yn defnyddio cynnyrch lleol yn eu seigiau lle bynnag y bo modd – mae’r cyflenwr mwyaf lleol ar stepen y drws!

Essential information

Address
Address
Llanfabon, Nr Pontypridd
CF37 4HP
Phone
Phone
01443 742050
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: