Mae Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod yn denu torfeydd enfawr i Ganol y Dref

  Cyhoeddwyd: 22 Gorffennaf, 2025
  Amser darllen: 3m

Roedd canol tref Bargod yn llawn egni ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf wrth i deuluoedd, cyplau a ffrindiau ddod at ei gilydd i fwynhau ail ddigwyddiad mawr y flwyddyn yn y dref, Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargoed.

Cafodd bron i 3,000 o ymwelwyr eu cofnodi yn y dref trwy gydol y dydd, cynnydd o bron i 2,000 yn fwy o ymwelwyr o’i gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol. Mae hyn yn tynnu sylw at boblogrwydd cynyddol y digwyddiad wrth iddo guro ffigurau presenoldeb y llynedd.

Prif uchafbwynt y digwyddiad i lawer oedd y gerddoriaeth ond roedd yr ŵyl hefyd yn cynnwys ystod eang o stondinau yn cynnig bwyd a diodydd blasus, cynhyrchion crefft unigryw, a gwybodaeth leol, gyda masnachwyr ac ymwelwyr yn aros cyhyd ag yr oedden nhw’n gallu i fwynhau’r haul.

Eleni cafodd dwy ardal gerddoriaeth newydd eu hychwanegu, gan ddod â’r cyfanswm i saith parth bywiog ledled y dref, gan greu awyrgylch bywiog.

Nodwedd arall o’r diwrnod oedd cyfranogiad brwdfrydig busnesau lleol. Barnardos, The Square Royale, Emporium Snooker Club, Murrays, a Bourton’s Music Bar, oedd rhai o’r busnesau a fanteisiodd i’r eithaf ar y cyfle trwy osod ardaloedd awyr agored y tu allan i’w lleoliadau i ymgysylltu â’r miloedd o fynychwyr.

Gyda’i awyrgylch croesawgar a’i ffocws ar gymuned, llwyddodd y digwyddiad i gyflwyno llawer o ymwelwyr i’r hyn sydd gan Fargod i’w gynnig, gan annog ymweliadau yn y dyfodol.

Clywch hyn a ddywedodd busnesau lleol, masnachwyr a cherddorion am yr ŵyl:

Russell Jones, Jr. – “Mae gweld wynebau hapus yn amhrisiadwy i mi. Dyma beth yw cerddoriaeth; dod â llawenydd, hapusrwydd a llwyth o ddawnsio.”

Oakdale Silver Band – “Hoffai Oakdale Silver Band ddiolch yn fawr i Gyngor Sirol Caerffili am ein gwahodd i ddathlu eu gŵyl gerddoriaeth ym Margod.”

Llyfrgell Bargoed – “Cafodd pawb ddiwrnod gwych, a gwelsom gynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr.  Cafodd y mannau synhwyraidd eu defnyddio’n dda, ac roedd pobl yn manteisio ar ein gofod oer, o ystyried y tywydd poeth iawn.  Ymunodd ymwelwyr hefyd â’n Sialens Ddarllen yr Haf hefyd!”

The Darts Dungeon – “Cawsom ein diwrnod agoriadol ddydd Sadwrn, ac roedden ni’n hynod brysur.  Roedd nifer yr ymwelwyr yn wych, gyda phobl o bob oedran, ac roedd yr adborth a gawsom ni’n hollol wych!”

Emporium Snooker Club (The Snooks) – “Dyma’r diwrnod prysuraf rydyn ni wedi’i gael ers tro, roedd ein gofod cerddoriaeth yn wych, a chafodd yr holl fandiau eu cefnogi’n dda gan wylwyr. Roedd yn wych gweld pobl yn y dref ac mae’r digwyddiad wedi tyfu ers y llynedd.”

Judith Voyle, Barnardo’s – “Mae’r digwyddiadau hyn yn ddirfawr eu hangen yma ym Margoed i roi hwb masnach i siopau ac annog pobl i ddod i’r dref.  Diolch i bawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad hwn.”

Nesaf ar y calendr yw Gŵyl Caws Caerffili, sy’n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 30 a dydd Sul 31 Awst yng nghanol tref Caerffili a thu ôl i Gastell Caerffili. Mae’n mynd i fod yn benwythnos gwych arall, felly nodwch ef yn eich calendrau!

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch i www.visitcaerphilly.com a dilyn Croeso Caerffili ar y cyfryngau cymdeithasol.