Paratoadau terfynol ar y gweill ar gyfer ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod y gwaith i roi wyneb newydd ar Ffordd Goedwig Cwmcarn yn mynd rhagddo, wrth iddo agosáu at gau pen y mwdwl ar y gwaith ailddatblygu.

Mae’r dasg olaf hon yn dilyn misoedd o waith i greu wyth ardal hamdden newydd a chyffrous ar hyd ffordd y goedwig.
Bydd y mannau gorffwys ar hyd y ffordd saith milltir yn cynnig rhywbeth i bawb – o deuluoedd a chanddynt fforwyr bychain yn eu plith i gerddwyr profiadol yn chwilio am fan tawel i gael paned a mwynhau’r olygfa.

Mae’r rhain yn cynnwys tair ardal chwarae newydd, ardal adrodd straeon, cyfleusterau dysgu, llwybrau ar gyfer pob gallu, a sawl man eistedd a man picnic newydd.
Mae’r prosiect partneriaeth rhwng CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn wedi cael buddsoddiad sylweddol ac mae’n rhywbeth y mae llawer wedi bod yn aros yn eiddgar amdano.

Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd yn agor am gyfnod prawf ganol mis Mawrth gyda’r bwriad o ailagor y ffordd goedwig yn swyddogol yn ystod gwyliau’r Pasg 2021.