Mae’r maes 30 x 60m yn croesawu cystadlaethau dressage a neidio ceffylau i farchogion newydd a marchogion cyswllt. Mae hefyd gyfleusterau awyr agored, sy’n galluogi cynnal digwyddiadau awyr agored a dan do.
Sefydlwyd Sunnybank 10 mlynedd yn ôl ac mae’r ganolfan bellach ar y map. Mae’n hwyluso gwersi ar gyfer pob gallu, o ddechreuwyr i lefel uwch, a gallwch gael gwersi ar y ceffylau/merlod neu ddod â’ch rhai eich hunain. Dysgwch sut i wneud prawf dressage ar gefn ceffyl, sut i neidio ar hyd cwrs neidio ceffylau neu ddysgu marchogaeth.
Yn fwy pwysig, ar gyfer ymwelwyr â’r ardal, gall Sunnybank Equestrian Centre ddarparu marchogaeth dan hebryngiad, sy’n ffordd wych o weld y dirwedd brydferth leol!