Mae Canolfan Gweithgareddau Cwm Taf yn ganolfan weithgareddau teuluol wedi’i lleoli ar fferm weithredol yn Ne Cymru, gyda dros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gweithgareddau antur.
Ar y fferm, gallwch chi fwynhau beicio cwad, saethyddiaeth, saethu colomennod clai, taflu bwyeill a chwrs rhwystrau yn arddull y fyddin, sy’n hwyliog, gwlyb a mwdlyd iawn. Gallwn ni hefyd drefnu cerdded ceunentydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â gweithgareddau adeiladu tîm, cyrsiau preswyl i bobl ifanc a phecynnau diwrnodau i ffwrdd corfforaethol.
Mae gan y ganolfan rywbeth at ddant pawb; teuluoedd, cyplau, penblwyddi, diwrnodau tîm corfforaethol, penwythnosau plu/i’r dynion, timau chwaraeon, ysgolion, colegau.
Rhaid bod yn 7 mlwydd oed neu’n hŷn i gymryd rhan.
Mae’r ganolfan wedi’i leoli ar gyrion Caerffili, ger ffordd ddeuol yr A470 a phriffordd yr M4, dim ond 7 milltir i ffwrdd o Gaerdydd, ac mae’n hawdd ei gyrraedd o Dde Cymru.
Mae gweithgareddau ar gael trwy gydol y flwyddyn (dim ond ar gau ar Ddydd Nadolig) ac maen nhw’n wych ar gyfer gweithgareddau’r gaeaf gan fod rhai dan do ac eraill yn gallu digwydd yn y tywydd garw Cymreig arferol beth bynnag!
Mae caffi awyr agored bach ar y fferm y mae modd trefnu gweithgareddau ynddo, neu dafarndai lleol braf gerllaw.
Gall y ganolfan helpu hefyd gyda llety, trafnidiaeth a gweithgareddau eraill yn yr ardal.