Mae’r cownter deli yn llawn danteithion sydd wedi’u paratoi’n ffres, gyda nifer ohonyn nhw wedi’u gwneud yn ei gegin ei hunain o gynhwysion o ffynonellau meddylgar sy’n berffaith ar gyfer cinio, picnic, parti neu de yn y cartref. Maen nhw hefyd yn cynnig ystod eang o fwydydd arbenigol, lleol a rhai wedi’u mewnforio, gan gynnwys cawsiau fferm, charcuterie, bara ffres, olewau, finegr, pasta, cacennau cartref, bisgedi, coffi a the, cyffeithiau, antipasti, siytni, olewydd, tartennau sawrus, brechdanau, paninis a saladau.
Mae modd mynd â’i bwyd blasus gartref neu ei fwynhau gyda phaned o de neu goffi sydd wedi’i pharatoi’n ffres yn y caffi Deli cyfeillgar. Gyda seddi i tua 20 o bobl, mae modd ymlacio a dewis o’r fwydlen arbenigol neu rywbeth o’r cownter deli, neu beth am sbwylio’ch hun gyda rhywbeth blasus o’n cownter cacennau.
Mae hamperi Deli gwych a basgedi picnic wedi’u gwneud yn arbennig gyda’ch dewis eich hun o’r cynnwys. Maen nhw hefyd yn creu cacennau priodas ac yn gallu arlwyo ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Cynhyrchion heb glwten, feganaidd a llysieuol. WiFi ar gael am ddim