ber Valley Heritage Museum & Welsh National and Universal Mining Memorial Garden, Senghenydd

Mae Cwm Aber wedi’i leoli yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae ganddo ddwy brif gymuned, Abertridwr a Senghenydd, a wnaeth dyfu o amgylch y diwydiant glo yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Dewch i ymweld â’r Amgueddfa Treftadaeth sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Senghenydd. Mae’r amgueddfa wedi’i neilltuo i dreftadaeth gyfoethog Cwm Aber yng Nghaerffili, gyda phwyslais arbennig ar y ddwy lofa (Glofa’r Universal a Glofa Windsor yn Abertridwr) a oedd yn tremio dros y Cwm yn y gorffennol. Yn arbennig, mae’r gymuned wedi rhoi nifer o ffotograffau gwych ynghyd â chasgliad godidog o arteffactau a phethau cofiadwy. Mae pob un ohonyn nhw yn cael eu harddangos mewn cypyrddau arddangos amrywiol ac ar y ddwy sgrin gyffwrdd ryngweithiol.

Ar ôl i chi ymweld â’r amgueddfa, beth am grwydro ar hyd llwybr Treftadaeth Cwm Aber am y golygfeydd syfrdanol dros Fôr Hafren a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol? Yn olaf ond nid yn lleiaf, beth am alw heibio i’r Rose and Crown am beint neu bryd o fwyd?

Essential information

Address
Address
Senghenydd, Caerphilly
CF83 4HA
Phone
Phone
029 2083 0445
Website
Website
Website
CTA Member

You may also be interested in: